Dylai pobl gael dweud eu dweud am ddyfodol Pontypridd
Heddiw mae’r Aelod o’r Senedd dros Ganol De Cymru a’r Cynghorydd dros Dref Pontypridd Heledd Fychan AS wedi lansio ymgynghoriad i ofyn i drigolion, busnesau ac ymwelwyr â Phontypridd rannu eu barn am yr hyn yr hoffent ei weld yn digwydd i'r adeiladau gwag yng nghanol y dref.
COP26 - Diwrnod Dinasoedd, Rhanbarthau a'r Amgylchedd Adeiledig.
Ar 11 Tachwedd, mynychais COP26 yn Glasgow lle canolbwyntiwyd ar Ddinasoedd, Rhanbarthau a'r Amgylchedd Adeiledig.
Roedd gan y sesiynau y bûm ynddynt nifer o syniadau gwych ynghylch atal a rheoli llifogydd, gyda chymunedau yn arwain gyda cefnogaeth Llywodraethau yn hytrach na fel arall. Mynychais sesiwn ddiddorol hefyd ynglŷn â sut y gall cerddoriaeth a'r celfyddydau helpu i ysbrydoli pobl i weithredu mewn ymateb i'r argyfwng hinsawdd.
Taith gerdded noddedig o Glydach i Bontypridd
Bore 'ma, ymunais â Jodie a Kyle, a hefyd gwirfoddolwyr eraill o Cymorth Galar Cymru ar eu taith gerdded noddedig o Glydach i Bontypridd.
Pasys Covid
Pan ddaeth pasys Covid i rym ym mis Hydref, cysylltodd nifer o etholwyr i rannu eu pryderon ynglŷn â'r ffaith nad yw’r canllawiau yn ddigon clir i'r rhai sydd wedi'u heithrio rhag cael y brechlyn a chymryd profion llif oherwydd cyflyrau meddygol.
Diwrnod gweithredu byd-eang ar gyfer Cyfiawnder Hinsawdd
Roedd yn anrhydedd ymuno â'r miloedd o actifyddion hinsawdd ar strydoedd Caerdydd i ddathlu'r Diwrnod Gweithredu Byd-eang dros Gyfiawnder Hinsawdd (Tachwedd y 6ed)
Cyfiawnder Pensiwn i Fenywod y 1950au
Heddiw clywais leisiau pwerus menywod WASPI sydd wedi dod at ei gilydd i alw am un peth - cyfiawnder.
Prosiect Adfywio Ynysybwl
Heddiw (4 Tachwedd 2021), cefais y pleser o ymweld â Phrosiect Adfywio Ynysybwl.
Roedd yn wych clywed gan y staff a gwirfoddolwyr am yr holl fentrau gwahanol, a'r effaith gadarnhaol y mae'r prosiect wedi ei gael ar bobl yr ardal
Yn ystod fy ymweliad, cefais y cyfle i fynd ar daith gyda rhai o'r tîm ysbrydoledig sydd yn arwain y prosiect. Dechreuon yn y swyddfa yn Windsor Place ycyn mynd ar daith ar hyd llwybr Lady Windsor- rhan o daith gerdded Cribin Ddu a ddatblygwyd gan grŵp lleol.
Achub Bute Cottage Nursery
Heddiw, fe wnes i ymweld a Ysgol Feithrin Bute Cottage (dydd Mercher 3 Tachwedd) ar ôl dysgu am y cynnig gan y cyngor i gyfuno'r ysgol gyda ysgol arall. Byddai'r penderfyniad hwn yn golygu y byddai’r ysgol yn colli ei hannibyniaeth dros addysg y plant.
Yn ystod fy ymweliad, gwelais yn uniongyrchol yr amgylchedd dysgu gwych sydd wedi ysbrydoli cenedlaethau o blant meithrin a phobl leol i lansio ymgyrch i gadw'r ysgol.
Mae ymgyrch Save Bute Cottage eisoes wedi gweld dros 1,000 o bobl yn arwyddo deiseb yn erbyn y cynnig i gyfuno'r Feithrinfa ag Ysgol Gynradd Evenlode.
Rwyf yn cefnogi'n gryf eu hymgyrch i Achub Bute Cottage, ac yn gobeithio y bydd Cyngor Bro Morgannwg yn ail-feddwl eu cynig i uno'r ddwy ysgol.
Cystadleuaeth Nadolig
Heddiw, rwyf yn lansio cystadleuaeth i blant ysgolion cynradd i ddylunio cerdyn Nadolig neu addurn.
Thema cystadleuaeth Nadolig eleni yw ‘Nadolig Gwyrdd’
Gyda'r argyfwng hinsawdd a natur yn fater pwysig i bawb, rwy'n annog plant ysgolion cynradd ledled rhanbarth Canol De Cymru i ddylunio Cerdyn Nadolig neu addurn wedi'i wneud o ddeunyddiau wedi'u hailgylchu.
Angen Gweithredu Brys ar Domenni Glo
Yn dilyn cyhoeddi heddiw’r ffigyrau o ran lleoliad y 327 o domenni glo risg uchel yng Nghymru ar lefel awdurdod lleol, mae’r Aelod o’r Senedd dros Ganol De Cymru Heledd Fychan wedi galw am gyhoeddi’r union leoliadau ac i gamau brys gael eu cymryd.