Fel y bydd llawer ohonoch yn ymwybodol ddechrau'r mis hwn daeth Plaid Cymru â'i Cytundeb Cydweithio i ben gyda Llywodraeth Lafur Cymru. Rwy'n falch o'r hyn a gyflawnwyd drwy'r Cytundeb Cydweithio dros y ddwy flynedd ddiwethaf megis prydau ysgol am ddim i bob disgybl ysgol gynradd, ehangu'r cynnig gofal plant am ddim i filoedd yn fwy o deuluoedd, cymryd camau i fynd i'r afael â'r argyfwng tai, camau i ddiogelu'r Gymraeg a mwy. Byddwn bob amser yn cydweithio pan allwn i gyflawni ar gyfer ein cymunedau. Ond mae'r amser wedi dod i'r cytundeb ddod i ben. Ers cymryd yr awenau fel Prif Weinidog Cymru, mae Vaughan Gething eisoes wedi penderfynu gohirio polisïau pwysig fel diwygio'r dreth gyngor oedd i fod i gefnogi'r teuluoedd tlotaf yn ein cymuned. Mae hefyd wedi colli ymddiriedaeth fy hun a llawer o bobl eraill trwy fethu â thalu yn olrhodd o £200,000 i'w ymgyrch arweinyddiaeth gan gwmni a gafwyd yn euog o droseddau amgylcheddol. Mae angen Llywodraeth Cymru y gallwn ymddiried ynddo a fydd minnau a fy nghydweithwyr ym Mhlaid Cymru yn parhau i ddwyn Llywodraeth Cymru i gyfrif ar bob penderfyniad.
Fel y gŵyr llawer ohonoch sy'n byw ger Chwarel Craig y Hesg, ers blynyddoedd lawer rwyf wedi bod yn cefnogi eich brwydr yn erbyn ehangu'r chwarel. Yn ystod y misoedd diwethaf, mae pobl leol wedi bod yn gwylio'r sefyllfa'n ofalus. Mae'n destun pryder mawr gweld y llwch sy'n cael ei ryddhau ar ôl ffrwydro ar y safle. Rhaid i Lywodraeth Lafur Cymru wrando ar y gymuned a gweld yr effaith negyddol y mae chwareli'n ei chael ar yr amgylchedd ac ar iechyd pobl. Rwyf am eich sicrhau fy mod wedi ymrwymo'n llwyr i weithio gyda'r gymuned ac i wneud popeth y gallaf am y mater hwn. Byddaf yn cynnal dadl yn y Senedd ar y 26ain o Fehefin ynghylch Craig y Hesg, ac rwy'n gwahodd pawb i gymryd rhan yn yr ymgyrch.
Os ydych yn byw yng Nghanol De Cymru ac angen cymorth ar y mater hwn neu unrhyw mater arall, mae croeso i chi gysylltu â mi drwy e-bost yn [email protected] neu drwy ffonio fy swyddfa ar 01443 853214. Rwyf bob amser yn hapus i helpu.
Dangos 1 ymateb
Mewngofnodi gyda
Mewngofnodi gyda Facebook Mewngofnodi gyda Twitter