Ers mis Chwefror 2022, rydw i wedi cynnal deuddeg cyfarfod Rhwydwaith Cost Byw, gyda'r cyntaf yn cael ei gynnal yn Neuadd Eglwys Gymunedol Sant Dyfrig yn Nhrefforest. Cynhaliwyd y cyfarfodyddyn bennaf yn Rhondda Cynon Taf, ond cynhalion ni un cyfarfod rhwydwaith ar y cyd â Banc Bwyd Caerdydd yng Nghanolfan Gelfyddydau Chaper.
Mae cyfarfodydd y Rhwydwaith wedi bod yn gyfle i unigolion, grwpiau cymunedol a sefydliadau'r trydydd sector ddod at ei gilydd i edrych ar y sefyllfa fel y mae ac i weld pa grwpiau sy'n gweithio i helpu i ddelio â'r sefyllfa.
Mae pobl wedi canfod bod y cyfarfodydd yn ffordd wych o ddysgu am yr hyn y mae grwpiau eraill yn ei wneud ac i weld a oes ffyrdd o ymuno â'i gilydd ar gynlluniau i ledaenu'r gwaith gwych sy'n cael ei wneud.
Ein digwyddiadau hyd yn hyn yw:
Trefforest. Chwefror 2022
Pontyclun. Gorffennaf 2022
Bryncynon. Hydref 2022
Pontypridd. Ionawr 2023
Porth. Hydref 2023
Bryncynon. Chwefror 2024
Maerdy. Mehefin 2024
Tonyrefail. Hydref 2024
Caerdydd. Tachwedd 2024
Aberdâr. Chwefror 2025
Trefforest. Chwefror 2026
Pontypridd. Gorffennaf 2026









Dangos 1 ymateb
Mewngofnodi gyda
Mewngofnodi gyda Facebook Mewngofnodi gyda Twitter