Dros y ddwy flynedd ddiwethaf, mae’r Aelod o’r Senedd Plaid Cymru dros Ganol De Cymru, Heledd Fychan, wedi gweld cynnydd yn nifer yr etholwyr sy’n dweud wrthi eu bod yn brwydro i sicrhau addysg addas i’w plant sydd gyda anghenion dysgu ychwanegol. Arweiniodd hyn at Heledd i gynnal arolwg ac yna cynhyrchu adroddiad oedd yn cynnwys y profiadau torcalonnus a dewr a rannwyd gyda hi.
Roedd yr adroddiad hefyd yn gwneud yr argymhellion a ganlyn:
- Lleihau rhestrau aros ar gyfer apwyntiadau niwrolegol diagnostig drwy sefydlu canolfannau diagnostig plant i sicrhau bod plant ag oedi wrth ddatblygu a allai fod gyda anghenion dysgu ychwanegol yn cael eu adnabod cyn gynted â phosibl.
- Gweithredu cymarebau staffio addas mewn ysgolion
- Sicrhau bod plant a phobl ifanc ag anghenion dysgu ychwanegol a/neu anableddau corfforol yn gallu cael mynediad i'r run clybiau ysgol allgyrsiol, clybiau gwyliau a theithiau ysgol â’u cyfoedion
- Rhoi adolygiad a chynllun gweithredu ar waith i wella recriwtio a chadw staff addysgu a staff cymorth cymwys mewn ysgolion.
- Sicrhau bod yr holl staff mewn ysgolion ac yn yr Awdurdod Lleol sydd â chyswllt â phlant a phobl ifanc yn cael eu hyfforddi i ddeall egwyddorion cydraddoldeb a deall sut i gefnogi plant sy’n niwro-ddargyfeiriol
- Sefydlu unedau Cymraeg ar gyfer plant niwro-ddargyfeiriol nad ydynt yn ffynnu mewn ystafell ddosbarth prif ffrwd.
Dywedodd Heledd Fychan AS:
“Er gwaethaf newidiadau diweddar i addysg Anghenion Dysgu Ychwanegol, mae’n amlwg bod angen mwy o gymorth.
“Mae’r adroddiad hwn wedi’i rannu â Phwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg y Senedd ac yn seiliedig ar yr hyn yr wyf wedi’i glywed, rwy’n llwyr gefnogi’r galwadau sy’n cael eu gwneud gan rieni, gofalwyr a phlant a phobl ifanc i welliannau brys gael eu gwneud.
“Roedd y straeon a rannwyd gyda mi yn dorcalonnus ac yn ofidus. Rydym yn gwneud cam â gormod o blant, pobl ifanc a’u teuluoedd. l hyn ddim parhau.”
I ddarllen yr adroddiad llawn ewch at:ALN Heledd Fychan CYM - Heledd Fychan CYM
Dangos 1 ymateb
Mewngofnodi gyda
Mewngofnodi gyda Facebook Mewngofnodi gyda Twitter