Heledd Fychan AS yn mynegi pryder ynghylch y newyddion bod dros 100 o swyddi yn y fantol yn Rhondda Cynon Taf

Yn dilyn y newyddion bod Everest wedi cael eu rhoi yn nwylo’r gweinyddwyr gan roi dros 100 o swyddi yn Rhondda Cynon Taf yn y fantol, mae Aelod Seneddol rhanbarthol Plaid Cymru, Heledd Fychan, wedi mynegi ei phryder ac wedi annog Llywodraeth Cymru i roi cymorth i’r rhai sydd wedi eu heffeithio. 

Wrth ymateb i’r newyddion, dywedodd Ms Fychan: “Mae hyn yn newyddion trychinebus i’r rhai yr effeithiwyd arnynt, yn enwedig gan bod hyn yn dod mor fuan ar ôl i gannoedd o swyddi gael eu colli yn yr un ardal yn dilyn cau UK Windows and Doors.

“Rwyf wedi cyflwyno cwestiwn i Ysgrifennydd y Cabinet yn gofyn sut mae Llywodraeth Cymru wedi cefnogi’r cwmni a hefyd pa gymorth fydd ar gael i’r rhai yr effeithir arnynt.

“Mae'n anodd dod o hyd i gyflogaeth amgen yn yr ardal, ac mae llawer o bobl yn cael trafferth cadw dau ben llinyn ynghyd. Rhaid i Lywodraeth Cymru gymryd camau i sicrhau bod mwy o gyfleoedd cyflogaeth yn cael eu creu, a sefydlu a oes unrhyw fusnesau eraill yn ei chael hi’n anodd ac mewn perygl o gau fel gellir cymeryd camau i warchod swyddi eraill.”


Dangos 1 ymateb

Edrychwch yn eich e-bost am ddolen i fywiogi eich cyfrif.
  • Brooke Webb
    published this page in Newyddion 2024-04-30 09:55:02 +0100

Eisiau clywed mwy gan eich AS? Cofrestrwch isod

Ymgyrchoedd