Newyddion

Clwb Peldroed Trefforest

Roedd yn wych ymweld â Chlwb Pêl-droed Trefforest ddydd Gwener ddiwethaf a chlywed mwy am y gwaith anhygoel sy’n cael ei wneud yn y clwb.
Cawsom drafodaeth gadarnhaol iawn am ddyfodol y clwb a’r rôl bwysig y mae’n ei chwarae yng nghanol y gymuned leol. 

Mae Clwb Pêl-droed Trefforest yn llawer mwy na chlwb pêl-droed mae’n ganolbwynt cymunedol go iawn, sy’n dod â phobl at ei gilydd ac yn darparu cyfleoedd i drigolion lleol o bob oed.

Roedd yn wych clywed am gynlluniau’r clwb ar gyfer y dyfodol a’r gwaith caled sy’n cael ei wneud i’w helpu tyfu a ffynnu.

Diolch i bawb yng Nghlwb Pêl-droed Trefforest am gymryd yr amser i gwrdd â mi. 

Ychwanegwch eich ymateb Rhannu

Rhwydwaith Costau Byw - Pontypridd Cynon Merthyr

Cynhelir y cyfarfod Costau Byw nesaf yn YMa, Pontypridd ar 10 Gorffennaf 2026 rhwng 09:30 a 12:00 
Gyda’r cap ar gostau ynni ar fin codi’n sylweddol ym mis Gorffennaf, byddwn yn canolbwyntio ar dlodi tanwydd a sut y gallwn wella’r gefnogaeth i bobl sy’n cael trafferth. 
Os ydych yn sefydliad sy'n cefnogi pobl leol gyda chostau byw, mae'r cyfarfod hwn yn gyfle gwych i gysylltu ag eraill, rhannu syniadau a chlywed am y cymorth sydd ar gael ledled ein cymunedau.
Gallwch gofrestru i fynychu’r digwyddiad yma 👉https://www.heleddfychan.cymru/yma_10_7_26
Ychwanegwch eich ymateb Rhannu

Cymhorthfa Cynghori Cynon Linc

Roedd hi'n wych bod yn Cynon Linc wythnos diwethaf ar gyfer cymhorthfa gyngor ochr yn ochr â Sara Crowley, fy nghyd Aelod o'r Senedd Plaid Cymru yn etholaeth Pontypridd Cynon Merthyr.

Mae cymhorthfeydd yn rhan ganolog o fy ngwaith ac mae'n fy helpu i ddeall yn well y materion rydych chi'n eu hwynebu fel unigolion, teuluoedd neu gymunedau ac i'ch cefnogi chi yn y ffordd orau y gallaf.  Diolch i bawb a archebodd apwyntiad i'n gweld ni, ac am ymddiried ynom ni gyda'r materion maen nhw'n ceisio cymorth gyda nhw.

Byddaf yn cynnal cymhorthfeydd cyngor rheolaidd ar draws yr etholaeth, lle gallwch siarad â mi am unrhyw beth sydd angen help arnoch chi ag ef. Mae fy nhîm a minnau'n cefnogi pobl gydag ystod eang o faterion, gan gynnwys iechyd, tai, trafnidiaeth, addysg, yr amgylchedd a mwy.

Os oes angen cymorth arnoch gyda mater lleol, cymorth gyda gwaith achos, eisiau codi rhywbeth sy'n bwysig i chi, neu os hoffech i mi ymweld â grŵp neu brosiect, mae croeso i chi gysylltu bob amser.

Os oes angen help arnoch, mae yna nifer o ffyrdd y gallwch gysylltu:

Ffôn:    01443 853214
Ebost: [email protected]
Post:  2 High Street, Pontypridd, CF37 1QJ
Ychwanegwch eich ymateb Rhannu

Sara Crowley

Dwi'n falch o fod yn rhan o dîm Plaid Cymru gyda Lis Mclean a Sara Crowley, yn cynrychioli a chefnogi pobl Pontypridd, Cynon a Merthyr yn ein cymunedau lleolo a'r Senedd.  Yma cewch ddysgu mwy am un ohonynt - Sara Crowley, ei chefndir a'r hyn yr hoffai gyflawni yn ei thymor cyntaf fel Aelod o'r Senedd.

Cafodd ei geni a’i magu yng Nghwm Cynon, ac mae’n byw yno o hyd gyda’i theulu ac yn falch iawn o’i gwreiddiau.  Wedi’i gwreiddio yn ei chymuned, mae’n deall realiti bywydau bob dydd pobl ar draws y cymoedd, yn ogystal â’u cryfderau.

Mae ei gyrfa wedi canolbwyntio ar sefyll ochr yn ochr â phlant a phobl ifanc, yn enwedig y rhai sydd mewn perygl o gael eu hanwybyddu.  Cymhwysodd Sara fel athrawes ysgol gynradd drwy gyfrwng y Gymraeg yng Ngholeg y Drindod, Caerfyrddin, cyn gweithio i elusen atal trosedd mewn ysgolion uwchradd a charchardai, gan gefnogi pobl ar adegau heriol yn eu bywydau.

Cyn mynd i mewn i wleidyddiaeth, treuliodd ddegawd yn y GIG, lle datblygodd SEREN Connect, rhaglen addysg genedlaethol a gyd-luniwyd gyda phobl ifanc i wella’r gefnogaeth i bobl ifanc sy’n byw gyda diabetes Math 1.

Mae byw gyda diabetes Math 1 o oedran ifanc wedi llunio ei gweithgarwch ac wedi rhoi iddi’r penderfyniad i wneud i systemau weithio’n well i bawb.  Mae Sara yn credu y dylai gwleidyddiaeth fod yn dosturiol ac wedi’i gwreiddio ym mywydau bob dydd pobl.  Mae’n angerddol dros godi llais y rhai nad ydynt yn cael eu clywed yn aml, annog mwy o fenywod i ymgysylltu â gwleidyddiaeth, a herio’r rhwystrau sy’n dal pobl yn ôl, gan sicrhau nad yw neb yn cael eu gadael ar ôl.

 

Darllenwch fwy
Ychwanegwch eich ymateb Rhannu

Lis Mclean

Dwi'n falch o fod yn rhan o dîm Plaid Cymru gyda Lis Mclean a Sara Crowley, yn cynrychioli a chefnogi pobl Pontypridd, Cynon a Merthyr yn ein cymunedau lleolo a'r Senedd.  Yma cewch ddysgu mwy am un ohonynt - LIs Mclean, ei chefndir a'r hyn yr hoffai gyflawni yn ei thymor cyntaf fel Aelod o'r Senedd.

Mae Lisbeth McLean yn arweinydd cymunedol gyda dros 20 mlynedd o brofiad o weithio gyda phobl Merthyr Tudful i hyrwyddo’r Gymraeg, datblygiad cymunedol, a grymuso lleol.  Fel Prif Swyddog Menter Iaith Merthyr Tudful a Phrif weithredwraig Canolfan a Theatr Soar, mae hi wedi chwarae rhan flaenllaw mewn creu cyfleoedd i bobl o bob oed ymgysylltu â’r iaith a’r diwylliant mewn ffyrdd ystyrlon ac ymarferol.

A hithau wedi astudio Economeg ym Mhrifysgolion Aberdeen ac Abertawe, aeth Lisbeth ymlaen i addysgu Economeg ac Astudiaethau Busnes. Mae ei chefndir mewn addysg wedi llywio ei gwaith yn y trydydd sector, gan ddod â dealltwriaeth strategol o sut i gefnogi unigolion a chymunedau i dyfu, ffynnu, a dod yn fwy hunangynhaliol.

Yn angerddol dros gyfiawnder cymdeithasol, cydraddoldeb, a sicrhau bod pob llais yn cael ei glywed, mae gwaith Lisbeth yn canolbwyntio ar feithrin partneriaethau, cefnogi mentrau cymunedol gwreiddiol, a chryfhau presenoldeb y Gymraeg mewn bywyd bob dydd. Mae ei hymroddiad a’i harweinyddiaeth wedi gadael effaith barhaol ar Ferthyr a thu hwnt.

Mae’n parhau i bledio’r achos mai cymunedau cynaliadwy yw’r rhai sy’n cael eu hadeiladu o’r gwaelod i fyny—drwy iaith, hunaniaeth, ac uchelgais gyffredin am ddyfodol gwell.

 

Darllenwch fwy
Ychwanegwch eich ymateb Rhannu

Arolwg Iechyd Craig yr Hesg

Byddaf yn parhau i ymgyrchu i ddiogelu iechyd y cymunedau yr effeithir arnynt gan y Chwarel yn well ac mae gen i ddiddordeb mewn gwybod sut mae byw mewn cyffiniau yn effeithio arnoch chi a pha effaith sydd ganddo ar eich bywydau bob dydd fel y gallwn ddarparu rhagor o dystiolaeth i Lywodraeth Cymru o effaith y chwarel ar iechyd y cyhoedd.

Bydd unrhyw wybodaeth a rannwch yn cael ei chadw gan fy swyddfa a bydd yn sail i adroddiad cymunedol dienw. Cyhoeddir yr adroddiad terfynol a bydd ar gael ar fy ngwefan. Gallwch gwblhau'r holiadur ar-lein drwy glicio yma: https://tinyurl.com/bdckr598

Gobeithio y byddwch yn fodlon ateb yr holiadur hwn gan y mwyaf o ymatebwyr sydd gennym, y mwyaf cynhwysfawr fydd y dystiolaeth.

Ychwanegwch eich ymateb Rhannu

Hysbysebiad Berwi Dŵr - Dŵr Cymru

🚰 Diweddariad Dŵr Cymru ar yr Hysbysiad Berwi Dŵr 🚰
Dw i wedi bod mewn cysylltiad uniongyrchol â Dŵr Cymru, sydd bellach wedi darparu rhagor o wybodaeth am y camau y mae’n eu cymryd mewn ymateb i’r hysbysiad berwi dŵr presennol sy’n effeithio ar gwsmeriaid.
Maent yn gweithio’n agos gyda awdurdodau lleol, byrddau iechyd a sefydliadau cymunedol i nodi a chefnogi cwsmeriaid agored i niwed — gan gynnwys y rheini nad ydynt efallai wedi’u cofrestru ar y Gofrestr Gwasanaethau Blaenoriaeth ar hyn o bryd. Anogir preswylwyr hefyd i gysylltu os oes ganddynt bryder am gymydog, ffrind neu berthynas a allai fod angen cymorth ychwanegol, drwy ffonio llinell gymorth brys ar 0800 052 0130
📢 Mae amryw o ddulliau cyfathrebu yn cael eu defnyddio i roi’r wybodaeth ddiweddaraf i gwsmeriaid, gan gynnwys negeseuon testun, diweddariadau ar y wefan, cyfryngau cymdeithasol, ac ymgysylltu â rhanddeiliaid lleol a grwpiau cymunedol. Gan gydnabod nad yw pawb yn gallu cael eu cyrraedd yn ddigidol, mae Dŵr Cymru hefyd yn gweithio gyda chynrychiolwyr etholedig a sefydliadau partner i rannu gwybodaeth mor eang â phosibl.
📝 Gall cwsmeriaid gofrestru ar y Gofrestr Gwasanaethau Blaenoriaeth ar-lein:
neu dros y ffôn ar 0800 052 0145. Mae cymorth ychwanegol yn cael ei gydlynu gyda sefydliadau partner yn ystod y digwyddiad hwn.
📍 Mae lleoliadau gorsafoedd dŵr potel yn cael eu cwblhau ar hyn o bryd, a bydd manylion yn cael eu cadarnhau cyn bo hir drwy sianeli swyddogol. Byddant yn blaenoriaethu dosbarthu dŵr poteli i gartrefi cwsmeriaid mwyaf bregys nad ydynt yn gallu teithio i bwyntiau casglu.
Os oes gennych bryderon am yr hysbysiad hwn neu am bobl agored i niwed rydych yn eu hadnabod ac sy’n cael mynediad at orsafoedd dŵr potel, cysylltwch â’m swyddfa ar [email protected] neu cysylltwch â Dŵr Cymru yn uniongyrchol.
Ychwanegwch eich ymateb Rhannu

Tîm Pontypridd Cynon Merthyr

Dwi’n falch o fod yn rhan o dîm Plaid Cymru gyda Lisabeth Mclean a Sara Crowley yn cynrychioli ac yn cefnogi pobl Pontypridd Cynon Merthyr yn ein cymunedau lleol ac yn ein Senedd.

Mae fy nhîm staffio i ar gael o hyd ac mae gwaith achos yn parhau fel arfer.

I gysylltu:

📞 01443 853214
✏️ Heledd Fychan, 2 High Street, Pontypridd, CF37 1QJ

 

Ychwanegwch eich ymateb Rhannu

Etholaeth Newydd

Dwi'n ddiolchgar tu hwnt ac mae'n anrhydedd mawr i gael fy ail-ethol yn Aelod o'r Senedd ar gyfer etholaeth newydd Pontypridd Cynon Merthyr.

Mae'r swyddfa ym Mhontypridd bellach wedi ailagor a gallwch alw i mewn am gymorth neu gyngor rhwng 10am a 4pm, o ddydd Llun i ddydd Gwener. Ein cyfeiriad yw 2 Stryd Fawr, Pontypridd, CF37 1QJ. Fel arall, gallwch gysylltu â ni drwy e-bostio [email protected] neu ffonio 01443 853214.

Mae'r etholaeth newydd yn cynnwys Pontypridd, Cwm Cynon, Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful gyfan, ac ardaloedd o amgylch Llantrisant a Llanharan. Gallwch wirio os yw eich sefydliad wedi'i leoli yn / neu'n cwmpasu'r etholaeth hon yma (sgroliwch i ‘Pontypridd Cynon Merthyr’ tua gwaelod y dudalen i weld y map).

Ychwanegwch eich ymateb Rhannu

Arolwg Chwaraeon Ysgolion 2026

O 13 Ebrill i 17 Gorffennaf 2026, bydd ysgolion ledled Cymru yn cymryd rhan yn Arolwg Chwaraeon Ysgol Chwaraeon Cymru nesaf – cyfle hanfodol i blant a phobl ifanc ym Mlynyddoedd 3–11 rannu eu barn am chwaraeon a gweithgarwch corfforol.
Gyda phob ysgol wedi’i gwahodd, bydd arolwg eleni yn helpu i greu’r darlun mwyaf manwl hyd yma o:
✅ Pa mor actif yw pobl ifanc
✅ Pa chwaraeon a gweithgareddau maen nhw’n eu mwynhau
✅ Pa rwystrau allai fod yn eu dal yn ôl
🔗 Bydd pob ysgol yn derbyn dolen arolwg unigryw yn uniongyrchol gan Chwaraeon Cymru.
Mae pob ysgol sy’n cymryd rhan yn derbyn adroddiad data personol, gan eu helpu i gynllunio cyfleoedd chwaraeon a gweithgarwch corfforol gwell a mwy cynhwysol, yn seiliedig ar leisiau gwirioneddol y disgyblion. Po fwyaf o ysgolion a disgyblion sy’n cymryd rhan, y cryfaf fydd yr wybodaeth—ac yn ei dro, y gorau fydd y gefnogaeth i ddarpariaeth chwaraeon leol.
Gall ysgolion ddod o hyd i ganllawiau a gwybodaeth lawn drwy'r ddolen isod.
Helpwch i ledaenu’r neges a rhannwch cyn belled ag sy’n bosibl!
Ychwanegwch eich ymateb Rhannu

Eisiau clywed mwy gan eich AS? Cofrestrwch isod

Ymgyrchoedd