Newyddion

"Mae gennym ein timau chwaraeon, ein senedd a'n hiaith ein hunain – ni ddylem orfod ymladd dros ddarlledu gyda chenhedloedd eraill y DU" – Heledd Fychan AS

 

Mae ymgyrch Plaid Cymru i ddod â phwerau dros ddarlledu adref i Gymru gam yn nes ar ôl i banel arbenigol newydd baratoi'r ffordd ar gyfer datganoli pwerau cyfathrebu a darlledu i Gymru gael ei gyhoeddi heddiw.

Bydd y panel arbenigol, sy'n cael ei sefydlu fel rhan o'r Cytundeb Cydweithio rhwng Llywodraeth Cymru a Phlaid Cymru, yn darparu argymhellion ac opsiynau i helpu i gryfhau cyfryngau Cymru, ac yn cefnogi'r gwaith o ddatblygu cynlluniau ar gyfer fframwaith rheoleiddio effeithiol ac addas i'r diben i Gymru.

Bydd y panel yn cynghori ac yn darparu argymhellion ac opsiynau i gefnogi'r gwaith o gyflawni'r ymrwymiad i greu Awdurdod Darlledu a Chyfathrebu cysgodol i Gymru.

Darllenwch fwy
Ychwanegwch eich ymateb Rhannu

Ymweliad â'r Eisteddfod Urdd

Ddoe, ymwelais ag Eisteddfod yr Urdd yn Ninbych gyda fy nheulu. Roedd yn wych bod yn ôl ar y maes am y tro cyntaf ers 2019 gan fod eisteddfodau 2020 a 2021 yn anffodus wedi gorfod cael eu canslo oherwydd Covid.

Darllenwch fwy
Ychwanegwch eich ymateb Rhannu

Ymchwiliad Annibynol: Chwarel Craig Yr Hesg

Dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf, rwyf wedi bod yn cefnogi ymgyrch trigolion lleol yn erbyn ehangu Chwarel Craig Yr Hesg. Mae ceisiadau i ehangu wedi cael eu gwrthod ddwywaith gan Bwyllgor Cynllunio Cyngor Rhondda Cynon Taf. Ar y 21 Mehefin 2022  fe fydd Penderfyniadau Cynllunio ac Amgylchedd Cymru yn cynnal ymchwiliad cyhoeddus mewn i'r estyniad.

Darllenwch fwy
Ychwanegwch eich ymateb Rhannu

Ymweliad Pwyllgor i ogledd Cymru

Wythnos diwethaf, ymwelais gyda gogledd Cymru gyda’r Pwyllgor Diwylliant, Cyfathrebu, y Gymraeg, Chwaraeon a Chysylltiadau Rhyngwladol.

Fe fuom i lu o lefydd amrywiol, gyda nifer ohonynt yn gyfarwydd iawn imi yn sgil fy swydd flaenorol gyda Amgueddfa Cymru megis Ty Pawb, Theatr Clwyd a’r Amgueddfa Lechi wrth gwrs.

Darllenwch fwy
Ychwanegwch eich ymateb Rhannu

Ymweliad â Senedd yr Alban

Yn gynharach yr wythnos hon, ymwelais â Senedd yr Alban wrth i mi gynrychioli Senedd Cymru ar y British Irish Parliamentary Assembly.

Rwy’n Aelod hefyd o’r is-bwyllgor Amgylcheddol a Chymdeithasol ac rydym ar hyn o bryd yn cynnal ymchwiliad i’r ddarpariaeth ar gyfer ieithoedd lleiafrifol brodorol. Cymerwyd tystiolaeth yng Nghymru yn 2019, a dyma oedd ein cyfle ni i glywed am y sefyllfa yn yr Alban mewn perthynas â phob iaith frodorol. Ymhlith y rhai a roddodd dystiolaeth oedd Shirley-Anne Somerville MSP, Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg a Sgiliau, Llywodraeth yr Alban.

Darllenwch fwy
Ychwanegwch eich ymateb Rhannu

Goryrru ym Mhentre'r Eglwys

Yn ddiweddar, fe wnes i gynnal cyfarfod cyhoeddus gyda phobl leol ym Mhentre’r Eglwys  oedd yn poeni am oryrru yn yr ardal.

Rwy'n ymwybodol nad yw hwn yn fater sy'n unigryw i'r ardal hon gyda nifer o etholwyr yn cysylltu â’r swyddfa am faterion tebyg.

Y peth gorau y gallwch wneud pan welwch rywun yn gyrru'n beryglus yw rhoi gwybod i'r heddlu amdano.

 

Darllenwch fwy
Ychwanegwch eich ymateb Rhannu

Seisynau Sadwrn - Cyngor Ar Bopeth

Yn mis Chwefror, roeddem wedi cydweithio gyda chyngor ar Bopeth i gynnal ein cymhorthfa gyntaf. Canolbwyntiodd cymhorthfa mis Chwefror ar gyngor ynni.

Rhestr o’r dyddiadau ar gael isod os hoffwch drefnu apwyntiad ar gyfer y sesiynau hyn cysylltwch â Chyngor ar Bopeth RhCT.

Darllenwch fwy
Ychwanegwch eich ymateb Rhannu

Plaid Cymru yn mynnu "Cywirwch y cofnod am Ymchwiliad COVID

Penderfyniad Llywodraeth Cymru i wrthod ymchwiliad i Gymru wedi 'trosglwyddo'r holl reolaeth i Boris Johnson'

Ddoe (26 Ebrill 2022) ysgrifennodd Plaid Cymru at y Prif Weinidog i ofyn am gywiro'r cofnod ar ei ddatganiad ynghylch gallu Llywodraeth y DU i arwain yr ymchwiliad i COVID-19 yng Nghymru.

Darllenwch fwy
Ychwanegwch eich ymateb Rhannu

Canlyniadau yr arolwg datblygu Canol Trefi : Pontypridd

Ym mis Tachwedd 2021, cysylltodd nifer o etholwyr gyda fy swyddfa ynglŷn â’r hyn yr hoffent ei weld yn digwydd i safleoedd yr hen neuadd Bingo, Marks & Spencers a Dorothy Perkins yng nghanol tref Pontypridd. Cymerodd 75 o bobl ran mewn ymgynghoriad a redais, drwy gwblhau arolwg ar-lein yn ogystal â chysylltu â'r swyddfa'n uniongyrchol. Dyma ganlyniad yr ymatebion a dderbyniwyd gan drigolion sy’n byw, gweithio ac ymweld â Phontypridd.

 

 

Darllenwch fwy
Ychwanegwch eich ymateb Rhannu

Adroddiad Costau Byw Canol De Cymru

Ar 17 Chwefror 2022, gwahoddais sefydliadau lleol sy'n cynnig cymorth i bobl sy'n wynebu argyfwng i ddod atei gilydd i drafod sut y gallwn gydweithio i sicrhau bod pawb yn cael y cymorth sydd ar gael iddynt.

Yn bresennol roedd cynrychiolwyr o Gyngor ar Bopeth, Banc Bwyd Taf Elái a Phontypridd, Age ConnectsMorgannwg, Cynulliad Pobl Cymru, Little Lounge, gweithredu ar Dlodi Plant, Dillad Cymunedol Carmel, YRP aChyngor Caerdydd.

Darllenwch fwy
Ychwanegwch eich ymateb Rhannu

Mae hyn yn dechrau gyda chi

Ganddyn nhw mae'r arian, ond gennym ni mae'r bobl. Os yw pawb sy'n ymweld â'r wefan hon yn ymuno â'n symudiad yna does dim na allwn ei gyflawni.

Ymgyrchoedd