Cynllun Cymorth Costau Byw Atodol RhCT
I gael gwybodaeth am sut i wneud cais am y Cynllun Cymorth Tanwydd Gaeaf yn Rhondda Cynon Taf ewch yma.
Cynllun Cymorth Tanwydd Gaeaf Caerdydd
I gael gwybodaeth am sut i wneud cais am y Cynllun Cymorth Tanwydd Gaeaf yng Nghaerdydd ewch yma.
Cynllun Cymorth Tanwydd Gaeaf Bro Morgannwg
I gael gwybodaeth am sut i wneud cais am y Cynllun Cymorth Tanwydd Gaeaf ym Mro Morgannwg ewch yma.
Y Gronfa Cymorth Dewisol
Mae’r gronfa hon gan Lywodraeth Cymru yn darparu 2 fath o grant nad oes angen ichi eu talu’n ôl.
Taliad Cymorth Argyfwng (EAP)
Grant i helpu i dalu costau hanfodol, fel bwyd, nwy, trydan, dillad neu deithio mewn argyfwng os ydych:
- yn profi caledi ariannol eithafol
- wedi colli eich swydd
- wedi gwneud cais am fudd-daliadau ac yn aros am eich taliad cyntaf
- Ni allwch ei ddefnyddio i dalu am filiau parhaus na allwch fforddio eu talu.
Taliad Cymorth Unigol (IAP)
Grant i'ch helpu chi neu rywun rydych chi'n gofalu amdano i fyw'n annibynnol yn y cartref neu eiddo rydych chi neu nhw'n symud iddo.
Ar gyfer beth y gallwch ddefnyddio'r grant
- oergell, popty neu beiriant golchi a ‘nwyddau gwyn’ eraill
- dodrefn cartref fel gwelyau, soffas a chadeiriau
Ydych chi'n Anabl?
Ydych chi'n rhiant neu'n ofalwr i blentyn neu oedolyn anabl? Ydych chi'n anabl?
Os felly, defnyddiwch y wefan hon i ddod o hyd i Grantiau Anabledd.
Mae Elusennau ac Ymddiriedolaethau yn darparu cyllid tuag at gost uchel offer anabledd, gwyliau, tai, diwrnodau allan......... mewn gwirionedd unrhyw beth y tu hwnt i gostau arferol bywyd bob dydd.
Dangos 1 ymateb
Mewngofnodi gyda
Mewngofnodi gyda Facebook Mewngofnodi gyda Twitter