
Cyngor ar Bopeth Cymru
Mae Cyngor ar Bopeth yn darparu cyngor ar y ffôn, wyneb i wyneb neu drwy siarad â chynghorydd ar-lein.
Llinell Gymorth Ffôn: 03444772020
Advicelink Cymru: 0800 702 2020
Gwefan: www.citizensadvice.org.uk
Cyngor ar Ddyled
Step Change
Cyngor ar ddyledion i bobl yn y DU
Rhadffôn: 08001381111
Cefnogaeth ar-lein: www.stepchange.org/debtremedy
Gwefan: stepchange.org
Gall Dewis Cymru eich helpu i ddod o hyd i arian a gwasanaethau cynghori yn eich ardal.
Money Helper
Mae’r wefan hon wedi’i sefydlu gan Wasanaeth Arian a Phensiynau Llywodraeth y DU ac mae’n darparu canllawiau ar ddelio â dyled.
https://www.moneyhelper.org.uk/cy
Tariffau Cymdeithasol Band Eang a Ffôn
Mae tariffau cymdeithasol yn becynnau band eang a ffôn rhatach i bobl sy’n hawlio Credyd Cynhwysol, Credyd Pensiwn a rhai budd-daliadau eraill. Mae rhai darparwyr yn cyfeirio atynt fel band eang ‘hanfodol’ neu ‘sylfaenol’.Maent yn cael eu darparu yn yr un ffordd â phecynnau arferol, ond am bris is.Yng nghanol costau byw cynyddol, mae Ofcom yn annog cwmnïau i gynnig tariffau cymdeithasol er mwyn helpu cwsmeriaid ar incwm isel.Gall tariff cymdeithasol eich helpu mewn sawl ffordd:
- Mae ar gael i unigolion sy’n derbyn amrywiaeth o fudd-daliadau.
- Mae’n rhatach na phecyn arferol.
- Band eang cyflym, diderfyn.
- Byddwch yn talu bron dim byd i’w osod.
- Gallai gostio dim byd i newid.
- Ni fydd y pris yn codi yng nghanol y contract.
- Nid oes cost i adael.
Mae Ofcom yn cadw rhestr lawn o’r tariffau cymdeithasol band eang a ffôn ar waelod y ddolen hon.
Tariff cymdeithasol band eang
Am £12 y mis mae Band Eang Vodafone Essentials ar gael i bobl ar Lwfans Ceisio Gwaith, Credyd Cynhwysol, Lwfans Cyflogaeth a Chymorth, Lwfans Anabledd neu Daliad Annibyniaeth Bersonol.
Nid oes unrhyw ffioedd sefydlu na gadael, ac ni fydd cwsmeriaid yn cael newidiadau mewn prisiau o fewn contract. Mae'r cynllun yn rhoi mynediad i gynllun Fiber 1 neu Full Fiber 1, ansawdd Vodafone am 12 mis, gan ddarparu cysylltedd cyflym a dibynadwy gyda chyflymder lawrlwytho cyfartalog o 38Mbps.
Mae’r tariff newydd hwn yn ategu’r tariff cymdeithasol symudol presennol, VOXI for Now, sy’n rhoi mynediad i ddata diderfyn, galwadau a negeseuon testun am £10 y mis. Vodafone yw’r unig ddarparwr rhwydwaith i gynnig tariffau cymdeithasol, sy’n golygu y gall cwsmeriaid cymwys gael mynediad at gysylltedd symudol a band eang am 72 ceiniog y dydd.

Dangos 1 ymateb
Mewngofnodi gyda
Mewngofnodi gyda Facebook Mewngofnodi gyda Twitter