Plaid Cymru yn beirniadu Arweinydd Llafur Cyngor Caerdydd am feio staff Sain Ffagan am heriau Amgueddfa Cymru

Mae llefarydd Plaid Cymru dros Ddiwylliant, Heledd Fychan AS, wedi beirniadu Arweinydd Llafur Cyngor Caerdydd, Huw Thomas, a wnaeth sylwadau "sarhaus a di-sail" neithiwr yn beio staff a Sain Ffagan am heriau sylweddol yr Amgueddfa Genedlaethol.

Wrth siarad ar raglen Y Byd Yn Ei Le ar S4C nos Iau, tynnodd Huw Thomas sylw at y ffaith bod dros £30 miliwn wedi ei wario ar brosiect Sain Ffagan tua phum mlynedd yn ôl, gan ychwanegu y byddai uwch reolwyr yn yr Amgueddfa wedi bod yn ymwybodol o 'issues' ar y pryd.

Ychwanegodd ei fod yn synnu nad oedd gwaith cynnal a chadw wedi cael ei flaenoriaethu'n ôl bryd hynny pan oedd mwy o arian ar gael, yn hytrach na gwariant ar bethau "nice to have" yn Sain Ffagan.

Dywedodd Heledd Fychan AS a ymddangosodd ar y rhaglen hefyd:

"Mae'r rhain yn sylwadau sarhaus a di-sail gan Arweinydd Llafur Cyngor Caerdydd a ddylai wybod yn well a dweud y gwir.  

"Yn union fel sy'n wir gyda'r Gwasanaeth Iechyd, mae patrwm o wleidyddion Llafur yn dod i'r amlwg sy’n beio staff boed hynny yn ein Byrddau Iechyd neu ein sefydliadau cenedlaethol am eu hanallu eu hunain i gydbwyso'r llyfrau mewn ffordd gynaliadwy. 

"Sain Ffagan yw trysor pennaf arlwy ein prifddinas i ddinasyddion ac i ymwelwyr Cymru fel ei gilydd. Mae'n anhygoel clywed Arweinydd Cyngor Caerdydd yn cyfeirio at ddatblygiadau mawr ar y safle - a oedd y Grant Loteri Treftadaeth fwyaf erioed i gael ei ddyfarnu i unrhyw sefydliad yng Nghymru ar y pryd - fel 'nice to have.'

“Dylai Arweinydd Cyngor Caerdydd fod yn bencampwr brwd i arlwy diwylliannol y ddinas. Yn hytrach, mae gennym rywun sy'n hapus i gytuno â phennaeth ei blaid yng Nghymru a amddiffynnodd doriadau ei lywodraeth i Amgueddfa Cymru yr wythnos hon, a hynny'n bygwth cof diwylliannol cyfunol Cymru ymhellach.  

"Y peth lleiaf y dylai Huw Thomas ei wneud yw myfyrio ar ei sylwadau ac ymddiheuro."

 


Dangos 1 ymateb

Edrychwch yn eich e-bost am ddolen i fywiogi eich cyfrif.
  • Brooke Webb
    published this page in Newyddion 2024-04-19 16:04:01 +0100

Mae hyn yn dechrau gyda chi

Ganddyn nhw mae'r arian, ond gennym ni mae'r bobl. Os yw pawb sy'n ymweld â'r wefan hon yn ymuno â'n symudiad yna does dim na allwn ei gyflawni.

Ymgyrchoedd