Gweledigaeth ar gyfer addysg Gymraeg i bawb yn cael ei lansio

Yr wythnos hon yn y Senedd nodais sesiwn friffio lle lansiodd Cymdeithas yr Iaith waith ystadegol yn dangos llwybr cynnydd i sicrhau addysg Gymraeg i bawb erbyn 2050.

Mae’r adroddiad, ‘Addysg Gymraeg i Bawb: Cyrraedd y Nod’, yn dadansoddi’r cynnydd sydd ei angen ym mhob sir fesul pum mlynedd er mwyn cyrraedd y nod. Mae hefyd yn dadansoddi’r cynnydd angenrheidiol er mwyn cyrraedd nod Llywodraeth Cymru o 50% o blant mewn addysg cyfrwng Cymraeg erbyn yr un flwyddyn.

Daw fel rhan o ymgyrch barhaus Cymdeithas yr Iaith dros addysg Gymraeg i bawb, a sicrhau ymrwymiad ar gyfer hynny ym Mil Addysg Gymraeg y Llywodraeth, sydd ar fin cael ei gyflwyno i’r Senedd. Mae’r Bil yn cael ei ddisgrifio gan y mudiad fel “cyfle unwaith mewn cenhedlaeth” i “drawsffurfio” y gyfundrefn addysg.

Chwarter canrif wedi agor y Senedd hon, mae'n warth o beth bod y mwyafrif o blant a phobl ifanc yng Nghymru yn parhau i gael eu hamddifadu o'r cyfle i siarad a defnyddio'r Gymraeg.

Mae'r Gweinidog gyda chyfrifoldeb dros y Gymraeg yn dweud yn gyson bod y Gymraeg yn perthyn i bawb yng Nghymru, ond mae'n amharod iawn i gymryd y camau radical sydd eu hangen os ydym o ddifrif ynglŷn â sicrhau dyfodol cadarn i'n hiaith.

Nid geiriau gwag sydd eu hangen ond gweithredu a buddsoddi yn y gweithlu, fel mae'r adroddiad hwn yn nodi. Dyma'r unig ffordd o sicrhau cyfleoedd cyfartal i'n plant a'n pobl ifanc ddod yn siaradwyr Cymraeg hyderus, lle bynnag y maent yn byw yng Nghymru.

Drallen y adroddiad yma: https://cymdeithas.cymru/dogfen/addysg-cyrraedd-nod


Dangos 1 ymateb

Edrychwch yn eich e-bost am ddolen i fywiogi eich cyfrif.
  • Brooke Webb
    published this page in Newyddion 2024-04-24 10:31:43 +0100

Eisiau clywed mwy gan eich AS? Cofrestrwch isod

Ymgyrchoedd