Newyddion diweddaraf
Dyddiad Cymhorthfa Llantrisant
Mae Heledd wedi trefnu sesiwn cymhorthfa yn Llantrisant ar gyfer dydd Gwener 9 Hydref 2026. Os hoffech archebu sesiwn i drafod problem gyda Heledd, cysylltwch â'r swyddfa ar 01443 853214 neu anfonwch e-bost at [email protected]
Clwb Peldroed Trefforest
Roedd yn wych ymweld â Chlwb Pêl-droed Trefforest ddydd Gwener ddiwethaf a chlywed mwy am y gwaith anhygoel sy’n cael ei wneud yn y clwb.Cawsom drafodaeth gadarnhaol iawn am ddyfodol y clwb a’r rôl bwysig y mae’n ei chwarae yng nghanol y gymuned leol.
Mae Clwb Pêl-droed Trefforest yn llawer mwy na chlwb pêl-droed mae’n ganolbwynt cymunedol go iawn, sy’n dod â phobl at ei gilydd ac yn darparu cyfleoedd i drigolion lleol o bob oed.
Roedd yn wych clywed am gynlluniau’r clwb ar gyfer y dyfodol a’r gwaith caled sy’n cael ei wneud i’w helpu tyfu a ffynnu.
Diolch i bawb yng Nghlwb Pêl-droed Trefforest am gymryd yr amser i gwrdd â mi.
Rhwydwaith Costau Byw - Pontypridd Cynon Merthyr
Cynhelir y cyfarfod Costau Byw nesaf yn YMa, Pontypridd ar 10 Gorffennaf 2026 rhwng 09:30 a 12:00
Gyda’r cap ar gostau ynni ar fin codi’n sylweddol ym mis Gorffennaf, byddwn yn canolbwyntio ar dlodi tanwydd a sut y gallwn wella’r gefnogaeth i bobl sy’n cael trafferth.
Os ydych yn sefydliad sy'n cefnogi pobl leol gyda chostau byw, mae'r cyfarfod hwn yn gyfle gwych i gysylltu ag eraill, rhannu syniadau a chlywed am y cymorth sydd ar gael ledled ein cymunedau.
Gallwch gofrestru i fynychu’r digwyddiad yma https://www.heleddfychan.cymru/yma_10_7_26
