Cymorth Bwyd

Mae banciau bwyd ar lawr gwlad, yn sefydliadau cymunedol sydd â’r nod o gefnogi pobl na alL fforddio hanfodion bywyd e.e. bwyd a phethau ymolchi.  Gallent hefyd helpu mewn ffyrdd eraill a'ch rhoi mewn cysylltiad â ffynonellau cymorth eraill os nad ydych yn siŵr pwy i gysylltu â nhw am gymorth. I gael gwybod sut i gael taleb bwyd ffoniwch eich banc bwyd lleol. 

 

Mae Banc BwydCaerdydd yn gweithredu mewn sawl lleoliad ar draws y ddinas. Am fanylion ewch i https://cardiff.foodbank.org.uk/ [email protected] neu ffoniwch 029 2048 4120. 

 

Mae Banc Bwyd Bro Morgannwg yn gweithredu ar draws sawl safle ar draws y Fro. Am fanylion gweler https://vale.foodbank.org.uk/ e-bostiwch [email protected] neu ffoniwch 07879 562077 

 

Mae Banc Bwyd Pontypridd yn gwasanaethu cymunedau Pontypridd a'r cyffiniau. Am fanylion ewch i https://pontypridd.foodbank.org.uk/ email [email protected] neu ffoniwch 01443 404692 

 

Mae Banc Bwyd Taf Elai yn gwasanaethu ardal RhCT rhwng Pont-y-clun a Thonypandy. Am fanylion ewch i: https://taffely.foodbank.org.uk/ email [email protected] neu ffoniwch 01443 520730 

 

Mae Banc Bwyd Cwm Merthyr Cynon yn gweithredu ar draws sawl safle yng Nghwm Cynon a Bro Merthyr. Am fanylion ewch i https://merthyrcynon.foodbank.org.uk/ , e-bostiwch [email protected] neu ffoniwch 07427537437 

 

Mae Banc Bwyd y Rhondda yn gweithredu ar draws sawl safle yng Nghwm Rhondda. Am fanylion ewch i https://rhondda.foodbank.org.uk/contact-us/ , e-bost i[email protected] neu ffoniwch 07928451374 

 

SEFYDLIADAU CYMUNEDOL ERAILL 

Gall llawer o grwpiau cymunedol eraill eich helpu gyda mynediad at fwyd a dillad. 

 

RhCT 

Mae Interlink yn cyflogi tîm o swyddogion lles sy'n cefnogi pobl â materion cymdeithasol, ymarferol ac emosiynol. Maent yn arbenigo mewn cyfeirio pobl at wasanaethau, grwpiau a gweithgareddau lleol sy'n gwella iechyd a lles. I gael rhagor o wybodaeth ewch i https://interlinkrct.org.uk/wellbeing-andsupport/ e-bostiwch [email protected] neu ffoniwch 07526 571340 

 

Mae'r Arts Factory yn gweithredu pantri bwyd wedi'i leoli yn Ferndale, Cwm Rhondda. Am ragor o wybodaeth ewch i https://www.artsfactory.co.uk/who-weare/ e-bostiwch [email protected] neu ffoniwch 01443 757954 

 

Mae Rhondda Food Share yn gweithredu pantri bwyd ddwywaith yr wythnos yng Nghwm Rhondda e-bost [email protected] Mae Carmel Community Clothing wedi'i leoli yn y Rhondda ac mae'n cyflenwi dillad am ddim i'r rhai mewn angen ledled RhCT a thu hwnt. Am ragor o wybodaeth ewch i: https://www.facebook.com/CarmelClothingRCT/ 

 

Mae Materion Ariannol Cymru (Manage Money Wales) yn gweithredu siop rhannu gymunedol, sy'n cynnwys dillad yn y Porth. Am ragor o wybodaeth ewch i: https://www.facebook.com/ManageMoneyWalesAndTheCommunitySharingShop, e-bost: [email protected] neu ffoniwch: 07514 625536 

 

Mae Strategaeth Bryncynon yn gweithredu pantri bwyd yn Ynysboeth, Cwm Cynon. Am fwy o wybodaeth ewch i https://www.bryncynonstrategy.co.uk/communityfood-box e-bost: [email protected] 

 

Mae'r Lolfa Fach (Little Lounge)yn gweithredu pantri cymunedol yng Nghilfynydd ger Pontypridd. Am fwy o wybodaeth https://littlelounge.org/activities/, e-bostiwch [email protected] neu ffoniwch 07588303655 Sefydliadau Cymorth Cymunedol yn Rhondda Cynon Taf 

 

Mae Eglwys Santes Catrin ym Mhontypridd yn gweithredu pantri bwyd allan o Café Connect. Am fwy o wybodaeth ewch i https://www.connectpontypridd.co.uk/ e-bostiwch [email protected] neu ffoniwch 01443 492033 

 

Mae Angylion Bwyd Beddau yn darparu bwyd a chymorth am ddim i deuluoedd lleol yn ardal CF38. Am fwy o wybodaeth ewch i: https://www.facebook.com/BeddauFoodHub/ , e-bostiwch [email protected], neu ffoniwch: 07923 969498 

 

 

Caerdydd a Bro Morgannwg 

Sefydlwyd Gweithredu dros Drelái a Chaerau (Action for Ely Caerau) i ddatblygu a chyflwyno ystod o wahanol brosiectau a gweithgareddau yn ardal Trelái a Chaerau gan gynnwys pantri bwyd a chymorth galar tosturiol. Am ragor o wybodaeth ewch i https://www.aceplace.org/ e-bostiwch [email protected] neu ffoniwch 02920003132 

 

Mae Canolfan Datblygu Cymunedol De Glan yr Afon yn cefnogi pobl sy'n byw yng Nglan-yr-afon, Grangetown, a Threganna. Mae'n rhedeg ystod o wasanaethau gan gynnwys pantri bwyd. Am fwy o wybodaeth ewch i https://www.srcdc.org.uk/wyndham-st-pantry/ e-bostiwch [email protected] neu ffoniwch 029 2022 0309 

 

Mae Pafiliwn Grange yn Grangetown yn darparu gofod dan do ac awyr agored i breswylwyr gan gynnwys rhandir cymunedol. Am ragor o wybodaeth ewch i https://grangepavilion.wales/ e-bostiwch [email protected] 

 

Mae Canolfan Gymunedol Butetown yng nghanol Caerdydd yn cynnig amrywiaeth eang o weithgareddau gan gynnwys pantri bwyd wythnosol. Am ragor o wybodaeth ewch i https://butetowncommunitycentre.mystrikingly.com/ e-bostiwch [email protected] neu ffoniwch 029 20487658


Dangos 1 ymateb

Edrychwch yn eich e-bost am ddolen i fywiogi eich cyfrif.
  • Brooke Webb
    published this page in Costau Byw 2022-10-14 00:59:58 +0100

Mae hyn yn dechrau gyda chi

Ganddyn nhw mae'r arian, ond gennym ni mae'r bobl. Os yw pawb sy'n ymweld â'r wefan hon yn ymuno â'n symudiad yna does dim na allwn ei gyflawni.

Ymgyrchoedd