Newyddion

Grym Chwaraeon

Cefais drafodaethysbrydoledig fel rhan o banel gyda Chymdeithas Bêl Droed Cymru ar lwyfan Cynhadledd Plaid Cymru'r wythnos diweddaf  ar fuddsoddiad mewn pêl droed a’r adnoddau sydd eu hangen nid yn unig er mwyn gwella mynediad i’r gamp onf hefyd y llesiant a’r dygnwch ddaw o hynny i’n cymunedau gan gynnwys gwell iechyd, addysg a thwf economaidd.
Gall chwaraeon fod yn drawsnewidiol ond mae angen buddsoddiad mewn adnoddau ymhob cymuned fel bod pawb o bob cefndir ac oedran yn cael mynediad i chwaraeon o’u dewis nhw a’r lles go iawn ddaw o hynny.
Darllenwch fwy
Ychwanegwch eich ymateb Rhannu

Lawnsiad Maniffesto Cymdeithas MND

Roedd yn bleser mynychu lansiad Maniffesto Cymdeithas MND i Gymru heddiw yng Nghaerdydd. 
Mae eu Maniffesto yn glir iawn yn yr hyn y mae'n ei ofyn gan Lywodraeth Cymru, y GIG a Llywodraeth Leol i'w wneud i sicrhau darpariaeth gwasanaeth deg ledled Cymru - gan gynnwys tai addasedig amserol a phriodol; cefnogaeth ariannol ddigonol i ofalwyr; a hyrwyddo ymchwil gydweithredol o ansawdd uchel.
Darllenwch fwy
Ychwanegwch eich ymateb Rhannu

Gweithredu yn Erbyn Carthffosiaeth

Roedd yn bleser cwrdd ag Amber Keegan a gweithredwyr o Surfers Against Sewage yn y Senedd yr wythnos hon ar gyfer lansiad eu Maniffesto i'r Senedd ac i sgwrsio am atebion hirdymor ar gyfer ansawdd dŵr, hyrwyddo iechyd a lles y cyhoedd ac ymdrin â gollwng carthion.

Dw i’n gwbl ymwybodol o’r effaith y mae llygredd gwastraff a charthion yn ei chael yn fy rhanbarth fy hun, yn enwedig adeg llifogydd.

Ychwanegwch eich ymateb Rhannu

Stiwdio 37

Roedd yn braf iawn cael dal i fyny gyda Ruth a Gareth yn Stiwdio 37 heddiw a chlywed am yr hyn maen nhw wedi bod yn ei wneud ers fy ymweliad diwethaf.👥
Buom hefyd yn trafod rhai o’r heriau sy’n wynebu sefydliadau’r trydydd sector, yn ogystal â’r rhwystrau y mae pobl ag anghenion dysgu ychwanegol ac awtistiaeth yn eu profi wrth geisio cael mynediad at waith.
Darllenwch fwy
Ychwanegwch eich ymateb Rhannu

Dyfodol Metro De Cymru

Yr wythnos diwethaf cefais y cyfle i holi Llywodraeth Cymru ynghylch y trafodaethau y mae wedi’u cael gyda Llywodraeth y DU i sicrhau’r lefel gywir o fuddsoddiad i symud y weledigaeth ar gyfer metro de Cymru ymhellach, a chysylltu cymunedau’n briodol o gwm i gwm.


Rwy’n edrych ymlaen at graffu ar y cynllun ar gyfer rheilffyrdd a fydd yn cael ei gyhoeddi gan y diwydiant yr wythnos nesaf. Bydd yn cynnwys rhestr o welliannau arfaethedig, gan gynnwys sut y bydd metro de-ddwyrain Cymru’n cael ei ehangu yn y blynyddoedd i ddod, er mwyn sicrhau ei fod yn gwneud y mwyaf o’i botensial i gysylltu cymunedau a’r buddion economaidd a chymdeithasol y byddai hynny’n eu cynnig.

Ychwanegwch eich ymateb Rhannu

Cymhorthfa Perthcelyn a Help Pellach

Diolch yn fawr i bawb a ddaeth i’m Cymhorthfa yn Neuadd Gymunedol Perthcelyn ddechrau'r wythnos.
Roedd yn gyfle i mi gwrdd ag aelodau o’r gymuned ac i glywed yn uniongyrchol am y materion sy’n bwysig iddynt — megis cludiant ysgol, diffyg cefnogaeth i blant ag anghenion dysgu ychwanegol a phroblemau tai.
Mae fy nhîm a minnau bob amser yn hapus i gyfarfod ag unrhyw un sydd â mater, ac i drafod y ffordd orau o’u cefnogi i gael y cymorth y mae ganddynt hawl iddo.  Felly, cysylltwch drwy [email protected] neu 01443 853214.
Ychwanegwch eich ymateb Rhannu

Dyfodol Gwasanaethau Lliniarol Arbenigol Bwrdd Iechyd Cwm Taf Morgannwg

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg heddiw wedi lansio ymgynghoriad cyhoeddus 7 wythnos ar ddyfodol eu gwasanaethau Gofal Lliniarol Arbenigol (SPC) a gofal diwedd oes i oedolion.
Un o’r opsiynau sy’n cael eu hystyried yw cau’r ward wyth gwely SPC yn Ysbyty Cwm Cynon, Aberpennar, rhywbeth rwy’n gwybod sy’n peri pryder mawr i nifer o drigolion lleol.
 
Darllenwch fwy
Ychwanegwch eich ymateb Rhannu

Ffair Arianwyr

Roedd hi'n wych gweld cymaint o sefydliadau ac arianwyr yn ein ffair arianwyr yng nghanolfan YMa ym Mhontypridd wythnos diwethaf.

Serch hynny, dw i’n ofidus iawn o glywed sut mae cymaint o sefydliadau mewn peryg o ddiflannu o ganlyniad i doriadau a byddaf yn codi hyn ar frys gyda Llywodraeth Cymru.

Ychwanegwch eich ymateb Rhannu

Ymweliad ag Ysgol Bryncelynnog

Mwynheais gyfarfod â myfyrwyr blwyddyn 12 a 13 yn Ysgol Gyfun Bryn Celynnog yr wythnos hon.
Siaradais am fy mywyd fel Aelod Senedd Plaid Cymru, fy nghymhellion dros ddod yn wleidydd a materion o ddiddordeb lleol a chenedlaethol, gan gynnwys mynd i'r afael â llifogydd yn yr ardal, trafnidiaeth a chreu cyfleoedd gwaith a hyfforddiant yn nes at adref.
Roedd hefyd yn gyfle i roi cipolwg i'r myfyrwyr ar fy ngwaith yn y Senedd a thrafod etholiadau Senedd mis Mai, gan gynnwys pwysigrwydd gwneud penderfyniadau gwybodus. Rhannais ble gallant ddod o hyd i wybodaeth ddibynadwy am bolisïau'r gwahanol bleidiau sy'n sefyll a sut a ble i gofrestru a bwrw pleidlais.
Diolch i'r ysgol a'r myfyrwyr am y croeso a'r cwestiynau.
Ychwanegwch eich ymateb Rhannu

Y Maes Chwaraeon

Mwynheais noddi digwyddiad gwych yn y Senedd yr wythnos hon a siarad â'r amrywiaeth o sefydliadau sy'n cynrychioli'r sector chwaraeon gan gynnwys Chwaraeon Cymru, Cymdeithas Bêl-droed Cymru, Chwaraeon Anabledd Cymru, StreetGames, Tenis Cymru, Actif Gogledd Cymru, Partneriaeth Actif Canolbarth y De, Colegau Cymru, Athletau Cymru.
Darllenwch fwy
Ychwanegwch eich ymateb Rhannu

Eisiau clywed mwy gan eich AS? Cofrestrwch isod

Ymgyrchoedd