Ym mis Awst 2022, daeth cyfraith i rym yn yr Alban yn ei gwneud yn ddyletswydd gyfreithiol ar awdurdodau lleol, darparwyr addysg a chyrff gwasanaeth cyhoeddus penodedig i ddarparu cynhyrchion mislif am ddim a'u gwneud yn hawdd eu cael. Dyma oedd y cyntaf erioed, gyda'r nod o fynd i'r afael â thlodi mislif, hyrwyddo urddas mislif a thorri'r stigma.
Er bod Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i fynd i'r afael â thlodi mislif yng Nghymru, ac yn buddsoddi arian i ehangu'r ddarpariaeth o gynhyrchion mislif am ddim yn ogystal â hyrwyddo mwy o ddefnydd o gynhyrchion sy'n gyfeillgar i'r amgylchedd, nid yw hwn yn ofyniad cyfreithiol. Mae hyn yn arwain at anghysondeb o ran mynediad a'r math o gynhyrchion sydd ar gael, yn dibynnu ar ble mae pobl yn byw yng Nghymru.
Rydym am weld cyfraith yn cael ei chyflwyno yng Nghymru i sicrhau'r hawl hon, a diogelu mynediad am ddim ar gyfer y dyfodol.

Dangos 1 ymateb
Mewngofnodi gyda
Mewngofnodi gyda Facebook Mewngofnodi gyda Twitter