Mae Plaid Cymru yn annog Llywodraeth y DU i dalu tuag at wneud cannoedd o domenni a hen domenni glo yn ddiogel
Mae data diweddar (Tachwedd 2023) yn dangos bod 81 o domenni glo anniogel ar draws Rhondda Cynon Taf a Chaerdydd.
Casglwyd y wybodaeth gan y Tasglu Diogelwch Tomenni Glo, a sefydlwyd ar ôl tirlithriad mewn hen domen lo yn Tylorstown, Rhondda Cynon Taf, ym mis Chwefror 2020.
Mae Heledd Fychan o Blaid Cymru wedi dweud mai etifeddiaeth hanes diwydiannol y wlad yw’r tomenni glo, sy’n rhagflaenu datganoli ac yn achosi pryder i gymunedau cyfagos.
Mewn cynnig i’w drafod yn y Senedd heddiw (dydd Mercher 8 Mai 2024), mae Plaid Cymru wedi galw ar Lywodraeth Lafur Cymru i gyflwyno deddfwriaeth i fonitro tomenni’n effeithiol, sicrhau gwaith ataliol i osgoi perygl, a gwaith adfer i leihau’r risgiau presennol.
Mae Plaid Cymru hefyd wedi annog Llywodraeth y DU i ddarparu cyllid ar frys ar gyfer y gyfundrefn archwilio a chynnal a chadw ac i ysgwyddo costau hirdymor gwneud tomenni glo a hen safleoedd diwydiannol yn ddiogel.
Dywedodd Aelod Plaid Cymru dros Ganol De Cymru, Heledd Fychan AS:
“Mae pobl ar draws Rhondda Cynon Taf a Chaerdydd sy'n byw ger tomenni segur a glofeydd brig yn wynebu atgof dyddiol o'r perygl gwirioneddol a chynyddol i'w cartrefi a'u cymunedau.
“Mae effaith digwyddiadau tywydd eithafol amlach fel y gwelsom yn Tylorstown yn 2020 yn ein hatgoffa ymhellach bod yn rhaid i ni weithredu nawr.”
“Mae pawb yn haeddu teimlo’n ddiogel yn eu cartrefi ac mae’n rhaid i Lywodraeth y DU unioni camweddau’r gorffennol a sicrhau nad oes unrhyw gymuned yn byw mewn ofn o’r tomenni glo.”
“Byddaf yn parhau i weithio gyda’r cymunedau yr effeithir arnynt, ac yn ymgyrchu i unioni’r camwedd hyn.”
Dangos 1 ymateb
Mewngofnodi gyda
Mewngofnodi gyda Facebook Mewngofnodi gyda Twitter