Costau Ynni

Os ydych yn cael trafferth talu eich biliau ynni, y pethau cyntaf i'w gwneud yw cysylltu â'ch darparwr ynni. Gall Ymddiriedolaethau Elusennol Ynni eich helpu os ydych mewn dyled. Weithiau medrant eich helpu i dalu am ôl-ddyledion tanwydd. 

 

Rhifau cyswllt y prif gyflenwyr: 

Nwy Prydain - 0800 072 8625 

Octopus - 0808 164 1088 

E-On - 0345 052 0000 

SWalec - 0345 026 2658 

N Power - 0800 073 3000 

Scottish Power 0800 027 0072 

Ovo - 0330 303 5063 

 

Cofrestr Gwasanaethau â Blaenoriaeth (Cwmnïau ynni)  

Os ydych chi neu rhywun yn eich cartref o oedran pensiwn, yn byw ag anabledd, salwch cronig neu nam ar y golwg/clyw , gofynnwch i'ch cyflenwr ynni a ydych yn gymwys ar gyfer eu Cofrestr Gwasanaethau â Blaenoriaeth. 

Bydd hyn yn rhoi gwasanaethau ychwanegol rhad ac am ddim i chi, a gallai helpu i’ch diogelu rhag datgysylltiad os ydych yn cael trafferth talu eich biliau ynni ( os yw eich cyflenwr wedi ymuno â chynllun Rhwyd Diogelwch Energy UK).

 

Rhwyd Diogelwch Energy UK  

Os yw'ch cyflenwr wedi ymuno â chynllun Rhwyd Diogelwch Energy UK, maent wedi addo i beidio byth datgysylltu cwsmer sy'n agored i niwed, yn fwriadol ar unrhyw adeg o'r flwyddyn. 

Mae enghreifftiau o gwsmeriaid a allai gael eu hystyried yn agored i niwed o dan y telerau hyn yn cynnwys aelwydydd lle mae: 

  • Person oedrannus (oed pensiwn) neu rywun sy'n gofalu amdano yn y cartref
  • Rhywun sy'n anabl neu sydd â chyflwr meddygol hirdymor ac nad yw'n gallu cynnal ei hun neu sy'n dibynnu ar offer meddygol sy'n cael ei weithredu gan drydan (fel lifft grisiau, cadair olwyn, diffibriliwr, neu beiriant dialysis)
  • Plentyn ifanc.

 

Budd-daliadau - Taliadau Tanwydd Gaeaf a Thaliadau Tywydd Oer 

Efallai y bydd y cynlluniau canlynol gan y Llywodraeth ar gael i chi os ydych ar fudd-daliadau penodol: 

Taliadau Tanwydd Gaeaf – Taliad yw hwn a wneir i bobl dros oedran Credyd Pensiwn i helpu gyda chostau tanwydd. 

Taliadau Tywydd Oer – Os ydych ar incwm isel, efallai y byddwch yn gymwys ar gyfer y rhain os bydd tymheredd cyfartalog eich ardal yn disgyn i 0° Celsius neu’n is am saith diwrnod yn olynol. 

Mae grant o £200 i helpu gyda Biliau Tanwydd ar gael i deuluoedd ac unigolion sy’n derbyn: 

 

  • Credyd Treth Plant
  • Credyd Pensiwn
  • Budd-dal anabledd
  • Lwfans gofalwyr
  • Buddiannau cyfrannol
  • Cynllun gostyngiadau'r dreth gyngor

  

Mae rhagor o wybodaeth am sut i wneud cais ar gael drwy'r ddolen isod:

 Os ydych yn byw yn RhCT

 Os ydych yn byw yng Nghaerdydd

 Os ydych yn byw ym Mro Morgannwg

 

Os ydych chi’n ansicr ynglŷn â phwy i gysylltu am cymorth, gallwch cysylltu â mi ar 01443 853214 neu ar [email protected]


Dangos 1 ymateb

Edrychwch yn eich e-bost am ddolen i fywiogi eich cyfrif.
  • Brooke Webb
    published this page in Costau Byw 2022-10-06 10:14:11 +0100

Mae hyn yn dechrau gyda chi

Ganddyn nhw mae'r arian, ond gennym ni mae'r bobl. Os yw pawb sy'n ymweld â'r wefan hon yn ymuno â'n symudiad yna does dim na allwn ei gyflawni.

Ymgyrchoedd