Perthynasau

Perthynasau 

  

Relate Cymru 

Mae Relate yn darparu cwnsela perthynas i unigolion a chyplau, cwnsela teuluol, cyfryngu, cwnsela plant a phobl ifanc a Cwnsela Rhyw.   

Maent hefyd yn darparu gweithdai cyfeillgar ac anffurfiol i bobl ar adegau gwahanol pwysig  o’u perthynasau.  

Llinell wybodaeth: 0300 003 2340 

Ebost: [email protected] 

Gwefan: relate.org.uk 

 

Rhywioldeb 

 

Llinell gymorth LGBT Cymru  

Mae llinell gymorth LGBT Cymru  yn cynnig gwybodaeth cyffredinol, cyngor a chefnogaeth gyfrinachol mewn sawl maes bywyd ac ynglŷn a materion mae pobl LGBT, eu teuluoedd a’u ffrindiau yn profi.   

Rhadffôn: 0800 840 2069 

Ebost: [email protected] 

 

 

Camdriniaeth Rhywiol neu yn Cartref  

 

Llinell Gymorth Byw Heb Ofn 

 

I’r rheiny sydd wedi profi trais yn y cartref, trais rhywiol a / neu drais yn erbyn menywod, neu yn poeni am ffrind neu berthynas.  

Rhadffôn: 0808 80 10 800 

Ebost: [email protected] 

SgwrsFyw: livefearfree.gov.wales 

 

Llinell Gyngor Dynion (dynion yn unig) 

Llinell gymorth gyfrinachol i ddynion sydd yn dioddef trais yn y cartref.  

Rhadffon: 0808 801 0327 

Ebost: [email protected] 

Oriau agor: Ewch i’r wefan https://mensadviceline.org.uk/ 

 

 

Llinell Gymorth Trais yn y Cartref  

Y Rhadffôn Cenedlaethol 24-awr 

Mae Llinell Gymorth Trais yn y Cartref yn cael ei rhedeg mewn partneriaeth rhwng Cymorth i Fenywod a Refuge, ac mae’n wasanaeth cenedlaethol i fenywod sy’n dioddef trais domestig, eu teulu, ffrindiau, cydweithwyr ac eraill sy’n galw ar eu rhan. 

 

 

Rhadffon: 0808 2000 247 

Oriau agor: 7 diwrnod yr wythnos 24 awr y dydd  

 

Hourglass Cymru (Gweithredu ar gamdriniaeth yr henoed) 

Mae llinell gymorth Hourglass Cymru yn cynnig cefnogaeth arbennig i bobl hŷn ac yn darparu gwybodaeth, help a chymorth os ydych yn dioddef camdriniaeth neu yn poeni am rhywun arall yn dioddef camdriniaeth.  

 

Rhadffon: 0808 808 8141 

Testun: 07860 052906 

Ebost: [email protected] 


Dangos 1 ymateb

Edrychwch yn eich e-bost am ddolen i fywiogi eich cyfrif.

Eisiau clywed mwy gan eich AS? Cofrestrwch isod

Ymgyrchoedd