Mae Heledd Fychan, llefarydd Plaid Cymru dros Addysg wedi ysgrifennu ar frys at Ysgrifennydd Cabinet dros Addysg Llywodraeth Cymru, yn galw am adolygiad brys i gyflwr addysg uwch yng Nghymru, yn dilyn adroddiadau pryderus gan Brifysgolion Aberystwyth a Chaerdydd am bwysau ariannol a allai arwain at golli swyddi.
Yr wythnos diwethaf, bu adroddiadau y gallai hyd at 200 o swyddi fod mewn perygl wrth i Brifysgol Aberystwyth geisio arbed £15m, tra bod Prifysgol Caerdydd hefyd wedi dweud wrth staff nad yw ei sefyllfa ariannol “yn dda”ac wedi rhybuddio ei bod yn wynebu diffyg o £35m eleni pe na bai gweithredu.
Mae Ms Fychan wedi ysgrifennu at Lywodraeth Cymru cyn Datganiad Ysgrifennydd y Cabinet ar ein Blaenoriaethau Addysg yn y Senedd ddydd Mawrth, 14 Mai, yn galw arni “i gydnabod mor fregus yw’r sefyllfa ar hyn o bryd [ym mhrifysgolion Cymru]”. Aeth ymlaen i ddweud bod angen i Lywodraeth Cymru“ymrwymo i weithio gyda’r sector ar gynllun brys i sicrhau hyfywedd ariannol, yn cynnwys gwarchod swyddi ym mhrifysgolion Cymru”.
Dywedodd Heledd Fychan AS, llefarydd Plaid Cymru dros Addysg:
“Mae’r diswyddiadau a thrafferthion ariannol Prifysgol Aberystwyth, fel Prifysgolion ar draws Cymru, yn bryderus dros ben. Mae’n sector addysg uwch mewn argyfwng – rwyf wedi ysgrifennu at Lywodraeth Cymru i erfyn arnyn nhw i weithredu ar unwaith.
“Mae Plaid Cymru ac arbenigwyr o fewn y sector wedi bod yn rhybuddio Llafur ers blynyddoedd lawer am pa mor fregus yw’r sefyllfa.
“Mae ein prifysgolion ni yn adnodd gwbl angenrheidiol i ddyfodol ein gwlad. Mae nhw’n gyflogwyr pwysig, yn cyfrannu at ymchwil allweddol, yn rhan angenrheidiol o ddabtlygu’r gweithlu mewn meysydd megis iechyd ac addysg, ac yn hanfod economaidd o unrhyw wlad ddatblygedig.
“Does dim rhagor o amser am eiriau cynnes gan Lywodraeth Llafur Cymru, rhaid gweld gweithredu Mae angen i’r Ysgrifennydd Cabinet newydd gymryd cyfrifoldeb ar unwaith a gweithio gyda’r sector ar gynllun brys i sicrhau hyfywedd ariannol ac i gadw swyddi ym mhrifysgolion Cymru.”
Dangos 1 ymateb
Mewngofnodi gyda
Mewngofnodi gyda Facebook Mewngofnodi gyda Twitter