ymweliad â fferyllfa gymunedol
Mae fferyllfeydd lleol a'u timau yn chwarae rhan mor hanfodol yn ein cymuned. Roedd yn wych ymweld â Fferyllfa Knights Parkgate ym Mhontypridd y bore yma i weld y gwaith pwysig y maent yn ei wneud o ran darparu meddyginiaethau hanfodol a chynnig cyngor iechyd arbenigol.
Eisteddfod 2024 - Beth sydd nesaf Rhondda Cynon Taf?
Heb os, bu Eisteddfod Genedlaethol Rhondda Cynon Taf a gynhaliwyd ym Mharc Ynysangharad yn ddiweddar yn llwyddiant ysgubol, gyda llawer o bobl yn dweud mai hon oedd yr Eisteddfod orau erioed. Rwy'n cytuno!
Chwaraeodd cymaint o bobl o bob rhan o’r sir ran allweddol yn hyn, o godi arian i baratoi baneri ac arwyddion, gwirfoddoli yn ystod yr wythnos, cynnal digwyddiadau, sicrhau bod cysylltiadau trafnidiaeth gyhoeddus yn gweithio’n effeithlon, yn ogystal â hyrwyddo popeth sydd gan Rondda Cynon Taf i’w gynnig. Hoffwn ddweud diolch enfawr i bob un ohonynt. Roedd yn ymdrech gymunedol, a gallwn ni i gyd fod yn falch o’r wythnos a gafwyd.
Heledd Fychan AS yn ymweld â rhaglen URC 'FIT, FUN AND FED' yn Treorci
Cau Meddygfeydd Taff Vale yn Ynysybwl a Chilfynydd
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg wedi cyhoeddi y bydd canghennau meddygfa Taff Vale f yn cau yn barhaol yn Ynysybwl a Chilfynydd. Cafwyd gwrthwynebiad sylweddol i’r penderfyniad hwn, a wnaed ar 25 Gorffennaf, gan drigolion lleol a chynghorwyr Plaid Cymru Amanda Ellis, Paula Evans, a Hywel Gronow, yn ogystal â’r Aelod Senedd Rhanbarthol, Heledd Fychan.
Bwytai a Chaffis yn ac o gwmpas Canol Tref Pontypridd
Os ydych yn byw yn lleol neu'n ymweld â Phontypridd ar gyfer yr Eisteddfod sydd yn dechrau penwythnos nesaf, mae fy nhîm a minnau wedi creu canllaw i rai o’r bwytai a’r caffis lleol yn y dref. Pa rai yw eich hoff rai chi?
Heledd Fychan AS yn noddi digwyddiad gyda Banc Bwyd Caerdydd
Roeddwn yn falch o noddi Banc Bwyd Trussell Trust yn y Senedd heddiw. Wrth inni barhau i ymgyrchu dros ddyfodol heb fanciau bwyd, maent yn darparu cymorth hanfodol i unigolion a theuluoedd yng Nghymru.
Mae tlodi yn ddewis gwleidyddol, ac mae angen gweld gweithredu gan Lywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru i sicrhau nad oes angen banc bwyd ar neb. Mae angen i ni flaenoriaethu pobl.
Mae Heledd Fychan AS yn ymuno â disgyblion ar eu milltir dyddiol
Am ffordd wych i ddechrau'r diwrnod ysgol. Diolch i Ysgol Gynradd Trallwng am y gwahoddiad i gymryd rhan yn y Filltir Ddyddiol.
Mae’r rhaglen gwych hon yn annog plant i fod yn actif a dechrau’r diwrnod ar nodyn cadarnhaol. Roedd yn ysbrydoledig gweld pa mor gyffrous ac egnïol oedd y disgyblion yn barod ar gyfer gweddill y diwrnod ysgol. Fe enillon nhw wobr hefyd am eu hymrwymiad i Filltir y Dydd. Da iawn pawb!
Heledd Fychan AS yn galw ar Lywodraeth Cymru i anrhydeddu'r addewid i gymuned a rhoi diwedd ar chwarela yng Nghraig yr Hesg
Ddoe (Dydd Mercher 26) galwodd Heledd Fychan, Aelod Senedd Plaid Cymru dros Ganol De Cymru, ar Lywodraeth Cymru i weithredu ar unwaith i fynd i’r afael â’r materion a achosir gan chwarela yng Nghraig yr Hesg.
Mae Chwarel Craig yr Hesg, sy’n cael ei rhedeg gan Heidelberg Materials ac a leolir ger Pontypridd a Glyncoch, wedi bod yn destun cynnen sylweddol i drigolion lleol. Mae’r gymuned wedi bod yn lleisio eu gwrthwynebiad i’w gweithrediad parhaus a’r ehangu arfaethedig ond er gwaethaf hyn, anwybyddodd Llywodraeth Cymru wrthwynebiadau gan y gymuned leol a chyngor Rhondda Cynon Taf a rhoi caniatâd i’r chwarel barhau ac ehangu.
PLAID CYMRU YN GALW I DDIDDYMU RÔL YSGRIFENNYDD GWLADOL CYMRU
“Rydyn ni'n ei ddisgwyl gan y Torïaid wrth gwrs, ond mae'n ymddangos bod Llafur hefyd wedi troi eu cefn ar ddatganoli ac ewyllys y Senedd” meddai Plaid Cymru
Mae Plaid Cymru heddiw (dydd Mercher 26 Mehefin 2024) yn gosod cynnig gerbron y Senedd yn galw i ddiddymu rôl Ysgrifennydd Gwladol Cymru, gan nodi dylid trosglwyddo ei swyddogaethau i Lywodraeth Cymru.
Mae Llywodraeth Geidwadol y DU wedi ymosod ar ddatganoli ers tro, gan ddefnyddio swyddfa'r Ysgrifennydd Gwladol i gwestiynu ewyllys y Senedd. Yn ôl Plaid Cymru, bydd hyn yn parhau o dan Lywodraeth Lafur y DU, gan ddweud bod y rôl wedi dyddio.
Yr wythnos diwethaf, mewn cyfweliad ar raglen S4C Y Byd yn ei Le, fe wnaeth Ysgrifennydd Gwladol Cysgodol Cymru, Jo Stevens, wfftio ewyllys y Senedd a dangos agwedd ddirmygus tuag at ddatganoli. Yn ystod y cyfweliad, gwadodd Stevens fodolaeth HS2 ac felly'r £4bn sy'n ddyledus i Gymru, a gwawdiodd ddatganoli cyfiawnder a phlismona i Gymru fel "ffidlo o gwmpas gyda strwythurau a systemau".
Mae'r Senedd wedi cyrraedd consensws trawsbleidiol ers tro y dylid rhoi biliynau yn ôl i Gymru o brosiect HS2 Lloegr - wedi'i labelu yn brosiect 'Cymru a Lloegr’ er nad oes modfedd o drac yng Nghymru.