Newyddion

Diwrnod gweithredu byd-eang ar gyfer Cyfiawnder Hinsawdd

Roedd yn anrhydedd ymuno â'r miloedd o actifyddion hinsawdd ar strydoedd Caerdydd i ddathlu'r Diwrnod Gweithredu Byd-eang dros Gyfiawnder Hinsawdd (Tachwedd y 6ed)

Darllenwch fwy
Ychwanegwch eich ymateb Rhannu

Cyfiawnder Pensiwn i Fenywod y 1950au

Heddiw clywais leisiau pwerus menywod WASPI sydd wedi dod at ei gilydd i alw am un peth -  cyfiawnder.

Darllenwch fwy
Ychwanegwch eich ymateb Rhannu

Prosiect Adfywio Ynysybwl

Heddiw (4 Tachwedd 2021), cefais y pleser o ymweld â Phrosiect Adfywio Ynysybwl. 

Roedd yn wych clywed gan y staff a gwirfoddolwyr am yr holl fentrau gwahanol, a'r effaith gadarnhaol y mae'r prosiect wedi ei gael ar bobl yr ardal 

Yn ystod fy ymweliad, cefais y cyfle i fynd ar daith gyda rhai o'r tîm ysbrydoledig sydd yn arwain y prosiect.  Dechreuon yn y swyddfa yn Windsor Place ycyn mynd ar daith ar hyd llwybr Lady Windsor- rhan o daith gerdded Cribin Ddu a ddatblygwyd gan grŵp lleol. 

Darllenwch fwy
Ychwanegwch eich ymateb Rhannu

Achub Bute Cottage Nursery

Heddiw, fe wnes i ymweld a Ysgol Feithrin Bute Cottage (dydd Mercher 3 Tachwedd) ar ôl dysgu am y cynnig gan y cyngor i gyfuno'r ysgol gyda ysgol arall. Byddai'r penderfyniad hwn yn golygu y byddai’r ysgol yn colli ei hannibyniaeth dros addysg y plant. 

Yn ystod fy ymweliad, gwelais yn uniongyrchol yr amgylchedd dysgu gwych sydd wedi ysbrydoli cenedlaethau o blant meithrin a phobl leol i lansio ymgyrch i gadw'r ysgol. 

Mae ymgyrch Save Bute Cottage eisoes wedi gweld dros 1,000 o bobl yn arwyddo deiseb yn erbyn y cynnig i gyfuno'r Feithrinfa ag Ysgol Gynradd Evenlode. 

Rwyf yn cefnogi'n gryf eu hymgyrch i Achub Bute Cottage, ac yn gobeithio y bydd Cyngor Bro Morgannwg yn ail-feddwl eu cynig i uno'r ddwy ysgol. 

Darllenwch fwy
Ychwanegwch eich ymateb Rhannu

Cystadleuaeth Nadolig

Heddiw, rwyf yn lansio cystadleuaeth i blant ysgolion cynradd i ddylunio cerdyn Nadolig neu addurn.

Thema cystadleuaeth Nadolig eleni yw ‘Nadolig Gwyrdd’

Gyda'r argyfwng hinsawdd a natur yn fater pwysig i bawb, rwy'n annog plant ysgolion cynradd ledled rhanbarth Canol De Cymru i ddylunio Cerdyn Nadolig neu addurn wedi'i wneud o ddeunyddiau wedi'u hailgylchu.

Darllenwch fwy
Ychwanegwch eich ymateb Rhannu

Angen Gweithredu Brys ar Domenni Glo

Yn dilyn cyhoeddi heddiw’r ffigyrau o ran lleoliad y 327 o domenni glo risg uchel yng Nghymru ar lefel awdurdod lleol, mae’r Aelod o’r Senedd dros Ganol De Cymru Heledd Fychan wedi galw am gyhoeddi’r union leoliadau ac i gamau brys gael eu cymryd.

Darllenwch fwy
Ychwanegwch eich ymateb Rhannu

Mae'r amser i fynd i'r afael â'r argyfwng hinsawdd a Natur yn awr

Roedd yn wych cwrdd â ymgyrchwyr hinsawdd ar risiau'r Senedd heddiw. 

Mae’r argyfwng Hinsawdd a Natur y mater pwysicaf rydym yn ei wynebu, ac roedd yn cynhesu'r galon clywed am yr holl waith anhygoel y maent yn ei wneud mewn cymunedau ledled Cymru.

Diolch i Climate Cymru am drefni’r digwyddiad a ddod â lleisiau pobl Cymru i arweinwyr yn y Senedd.

 

Darllenwch fwy
Ychwanegwch eich ymateb Rhannu

Talu i wylio rygbi yn gosod “cynsail peryglus”

Plaid Cymru yn galw am ddarlledu holl gemau rygbi Cymru yn fyw ar S4C

Cadarnhawyd na fydd cefnogwyr rygbi Cymru yn gallu gwylio gemau rhyngwladol Cymru yn yr hydref ar deledu am ddim. Dim ond ar Amazon Prime y bydd gemau'n cael eu darlledu'n fyw, sy'n eistedd y tu ôl i wal dalu. 

Mae hyn yn nodi newid o gemau blaenorol, sydd wedi bod ar gael i'w gwylio'n fyw ar S4C am ddim. Y rheswm pam y gwnaed y newid yw oherwydd bydd Amazon Prime yn darparu sylwebaeth yn y Gymraeg a'r Saesneg. 

Darllenwch fwy
Ychwanegwch eich ymateb Rhannu

Canlyniadau Arolwg Yr Wythnos Werdd

Heddiw, rydym yn cyhoeddi canlyniadau ein harolwg diweddar a gynhaliwyd gennym yn ystod Wythnos Werdd Pontypridd. Roedd yn agored i bawb ar draws Rhanbarth Canol De Cymru, a hoffem ddiolch i bawb a gwblhaodd yr arolwg ar-lein neu a stopiodd sgwrsio â Heledd a'r tîm yn ystod yr wythnos. Bydd eich sylwadau a'ch syniadau yn helpu i lunio gwaith Heledd yn y Senedd, a'n gwaith fel tîm yn lleol i gefnogi ein cymunedau yn yr ymateb i'r argyfwng hinsawdd a natur.

Darllenwch fwy
Ychwanegwch eich ymateb Rhannu

Cyfarfod cyhoeddus Nantgarw

Ar 13 Hydref, cyfarfûm â thrigolion Nantgarw mewn Cyfarfod Cyhoeddus yng Ngholeg y Cymoedd. Roedd yn gyfarfod buddionl, ac roeddwn yn falch o glywed yn uniongyrchol gan breswylwyr eu barn ar faterion sydd yn bwysig iddynt.

Roedd llifogydd yn fater yr oedd nifer yn poeni amdano, yn dilyn effaith ddinistriol llifogydd 2020 a ddifethodd gymaint o'u cartrefi. Fe wnaethant rannu eu pryderon am y ffaith nad oeddynt dal ddim yn gwybod beth ddigwyddodd y noson honno.

Er nad yw'r adroddiad adran 19 sy'n ymchwilio i mewn i'r llifogydd yn Nantgarw wedi'i gyhoeddi eto gan Gyngor RhCT, mae'r mwyafrif o breswylwyr yn ofni na fydd hyn yn ddigon i ddeall yn iawn beth ddigwyddodd y noson honno ac yn cefnogi'n gryf yr angen am ymchwiliad annibynnol. Mae hyn hefyd yn rhywbeth mae preswylwyr ar draws RhCT yn ei gefnogi, ac rwy'n parhau i ymladd dros gyfiawnder ac atebion i bawb.

Ychwanegwch eich ymateb Rhannu

Mae hyn yn dechrau gyda chi

Ganddyn nhw mae'r arian, ond gennym ni mae'r bobl. Os yw pawb sy'n ymweld â'r wefan hon yn ymuno â'n symudiad yna does dim na allwn ei gyflawni.

Ymgyrchoedd