Tollau A470 yr ateb anghywir i broblem ddifrifol
Plaid yn cyhuddo Llafur o chwilio am “benawd” dros dollau ar yr A470

Mae Llywodraeth Cymru dros yr haf wedi bod yn ymgynghori ar gynigion i godi tâl ar yrwyr i ddefnyddio'r A470 rhwng Glan-Bad a Phontypridd, fel rhan o gynlluniau i leihau llygredd trwy Barth Aer Glân. Gwnaethpwyd y mwyafrif o breswylwyr yn ymwybodol trwy lythyrau yn cael eu rhannu ar gyfryngau cymdeithasol gan rai preswylwyr a oedd wedi derbyn hysbysiad, tra nad oedd eraill a fyddai’n cael eu heffeithio wedi derbyn unrhyw wybodaeth ac felly yn methu ag ymateb i’r ymgynghoriad.
Cwrdd â'r Tîm
Gyda dechrau tymor newydd y Senedd yn brysur agosáu, hoffwn gyflwyno fy nhîm
Ffurflen Cwyno am Fysiau Rwan yn Fyw
Gan bod nifer ohonoch wedi cysylltu dros y misoedd diwethaf ynglŷn â phroblemau gyda’ch gwasanaeth bws lleol, rwyf wedi creu adran arbennig ar fy ngwefan lle gallwch adael i mi wybod ar unwaith os oes unrhyw broblem.
Gardd Gymunedol Trehafod
Yn ddiweddar, cefais y pleser o ymweld â Gardd Gymunedol Trehafod. Mae grŵp o wirfoddolwyr wedi cymryd drosodd rhedeg y parc lleol / ardal gymunedol, ac fe agorodd ar 31 Gorffennaf.

Diolch: Fy 100 diwrnod cyntaf
Mae heddiw yn nodi 100 diwrnod ers i mi gael fy ethol i fod yn Aelod o’r Senedd dros Canol De Cymru.
Wrth edrych yn ôl ar yr ychydig fisoedd diwethaf, mae'n amhosib cyfleu pa mor falch ydw i o gael y cyfle i’ch cynrychioli.

Wythnos Genedlaethol Rhandiroedd
Mae’n Wythnos Genedlaethol Rhandiroedd - a’r thema eleni yw ‘Plotio ar gyfer y Dyfodol’
Thema sy'n dathlu cynaliadwyedd.
Roedd yn anrhydedd ymweld â Rhandir Pritchard Street yn Tonyrefail a chlywed gan Caryl a Rhys, preswylwyr sydd wedi bod yn tyfu ar y rhandir ers 18 mlynedd.

“Mae angen achub bywydau nawr a chytuno i Frechlyn y Bobl!”
Ar hyn o bryd yng Nghymru, gall deimlo fel bod diwedd y pandemig yn agosaj, ond i lawer o lefydd ledled y byd mae'r pandemig yn gwaethygu.
Er ein bod ni i gyd wedi mwynhau gwylio'r Ewros nol ym mis Mehefin, yn Uganda, roedd eu stadiwm pêl-droed cenedlaethol yn cael ei ddefnyddio fel ysbyty maes i drin cleifion COVID.
Fe wnaeth nifer yr achosion o COVID gynyddu’n sylweddol hefyd, o 1000 y cant ym mis Mehefin, gyda dim ond 4,000 o bobl allan o boblogaeth o 45 miliwn wedi derbyn dau ddos o’r brechlyn. Mae'r diffyg angheuol o frechlynnau yn stori sy'n cael ei ailadrodd ar draws y byd, enwedig mewn gwledydd incwm isel.
Safon gwasanaethau bws is-raddol yn effeithio ar ein cymunedau
Yn ddiweddar, cynhaliais arolwg am wasanaethau bysiau lleol, ar ôl derbyn nifer o gwynion gan breswylwyr sy'n byw yn ardal ehangach Pontypridd. Ar ôl codi’r pryderon hyn yn y Senedd o’r blaen, roeddwn i eisiau darganfod mwy am sut mae preswylwyr yn teimlo am y gwasanaeth a’r modd y mae gwasanaethau hwyr neu ddiffyg gwasanaeth yn effeithio arnyn nhw.
Mae 74% o'r rhai a ymatebodd yn nodi bod y gwasanaeth yn annibynadwy a ddim yn cynnig gwerth am arian. Nodwyd bod hyn yn cael effaith amlwg ar eu bywydau.
Pyllau padlo yn RhCT yn ailagor dros yr haf
Yn dilyn amser heriol i bob un ohonom, roedd yn hyfryd ymweld â'r pyllau padlo a'u gwirfoddolwyr ym Mhenygraig a Treorci ddoe.
Roedd yn wych gweld pawb yn mwynhau'r pyllau a gweld a chlywed pa mor boblogaidd oeddynt gyda pobl o bob oed.

Plaid Cymru yn galw am bwll nofio maint Olympaidd i ogledd Cymru
Mae chwe aelod o dîm Nofio Cymru wedi ennill lle yn y Gemau Olympaidd eleni – record newydd
Fe allai pwll maint Olympaidd yng ngogledd Cymru greu mwy o gyfleoedd i nofwyr yn yr ardal, mae Plaid Cymru yn dweud.
Bydd seremoni agoriadol gemau Olympaidd Tokyo yn cael ei chynnal heddiw, gan ddechrau cystadleuaeth sy'n cynnwys record o chwe nofiwr o Gymru.
Dathlodd llefarydd Plaid Cymru dros Chwaraeon, Heledd Fychan AS y llwyddiant, gan nodi bod gwylio athletwyr o Gymru yn "dod â ni at ein gilydd yn ein balchder dros Gymru" fel y dangoswyd gan Bencampwriaeth Ewropeaidd UEFA yn gynharach yr haf hwn.
