Newyddion

Nadolig Llawen a Blwyddyn Newydd Dda ichi gyd!

Mae’r neges Nadolig uchod yn dangos creadigaethau Lois Rhodd o Ysgol Gynradd Gymraeg Pont Sion NortonBriallen Davies o Ysgol Gynraedd Gymraeg Gymunedol Llantrisant Dosbarth A o Ysgol Gynradd y Ddraenen Wen – enillwyr fy nghystadleuaeth Nadolig.

Ychwanegwch eich ymateb Rhannu

Adalw’r Senedd: newidiadau i'r rheolau Covid

Gyda achosion Covid yn cynyddu a dyfodiad Omicron, fe gafodd y Senedd ai adalw i drafod y rheoliadau newydd. Roedd y cyfyngiadau newydd yn cynnwys cau clybiau nos, dychwelyd i'r rheol o chwech yn ogystal ag atal tyrfaoedd mewn digwyddiadau chwaraeon.

Darllenwch fwy
Ychwanegwch eich ymateb Rhannu

Heledd Fychan AS yn cefnogi teuluoedd mewn angen dros y cyfnod Nadolig

Eleni eto, daeth Heledd Fychan AS a Bevans Butchers ym Mhontypridd ynghyd i ddosbarthu hamperi bwyd Nadolig i deuluoedd mewn angen dros gyfnod y Nadolig.

 

Darllenwch fwy
Ychwanegwch eich ymateb Rhannu

Heledd Fychan AS yn cyhoeddi enillwyr cystadleuaeth e-gardiau Nadolig

Gyda'r argyfwng hinsawdd a natur yn fater pwysig i bawb, roeddwn eisiau annog plant ysgolion cynradd ledled rhanbarth Canol De Cymru i ddylunio e-gerdyn Nadolig neu addurn wedi'i wneud o ddeunyddiau wedi'u hailgylchu.

Darllenwch fwy
Ychwanegwch eich ymateb Rhannu

Heledd Fychan AS: Mae gennym ni i gyd, fel Aelodau’r Senedd hon, gyfrifoldeb i wneud popeth o fewn ein gallu i wneud yn siŵr nad oes neb yn mynd heb fwyd.

Yn ystod y pandemig, cynyddodd y defnydd o fanciau bwyd yn sylweddol, gyda’r Trussell Trust yn nodi cynnydd o 11% rhwng Ebrill a Medi 2021 yn cymharu â'r un cyfnod yn 2019. Amcangyfrifir bod y ffigwr hwn yn llawer uwch gan nad yw hyn cynnwys banciau bwyd annibynnol yng Nghymru.

Mae'r duedd gynyddol hon yn peri pryder ac yn dystiolaeth nad yw'r polisïau presennol yn gweithio, gyda bron i chwarter o bobl yng Nghymru yn byw mewn tlodi. 

Darllenwch fwy
Ychwanegwch eich ymateb Rhannu

Heledd Fychan AS yn cwrdd a Actifyddion Hinsawdd Ifanc yn y Senedd.

Mis diwethaf, fe wnaeth Heledd Fychan AS gyfarfod grŵp o ddisgyblion o Ysgolion Uwchradd y Pant a Fitzalan fel rhan o’u hymweliad â’r Senedd gyda Surfers Against Sewage.

Cafodd y disgyblion gyfle i holi Heledd a Julie James AS (Gweinidog dros Newid Hinsawdd) ar faterion pwysig fel yr amgylchedd, llygredd plastig a'u profiadau yn COP26.

Darllenwch fwy
Ychwanegwch eich ymateb Rhannu

Dylai pobl gael dweud eu dweud am ddyfodol Pontypridd

Heddiw mae’r Aelod o’r Senedd dros Ganol De Cymru a’r Cynghorydd dros Dref Pontypridd Heledd Fychan AS wedi lansio ymgynghoriad i ofyn i drigolion, busnesau ac ymwelwyr â Phontypridd rannu eu barn am yr hyn yr hoffent ei weld yn digwydd i'r adeiladau gwag yng nghanol y dref.

Darllenwch fwy
Ychwanegwch eich ymateb Rhannu

COP26 - Diwrnod Dinasoedd, Rhanbarthau a'r Amgylchedd Adeiledig.

 

Ar 11 Tachwedd, mynychais COP26 yn Glasgow lle canolbwyntiwyd ar Ddinasoedd, Rhanbarthau a'r Amgylchedd Adeiledig.

Roedd gan y sesiynau y bûm ynddynt nifer o syniadau gwych ynghylch atal a rheoli llifogydd, gyda chymunedau yn arwain gyda cefnogaeth Llywodraethau yn hytrach na fel arall. Mynychais sesiwn ddiddorol hefyd yngln â sut y gall cerddoriaeth a'r celfyddydau helpu i ysbrydoli pobl i weithredu mewn ymateb i'r argyfwng hinsawdd.

 

Darllenwch fwy
Ychwanegwch eich ymateb Rhannu

Taith gerdded noddedig o Glydach i Bontypridd

Bore 'ma, ymunais â Jodie a Kyle, a hefyd gwirfoddolwyr eraill o Cymorth Galar Cymru ar eu taith gerdded noddedig o Glydach i Bontypridd.

Darllenwch fwy
Ychwanegwch eich ymateb Rhannu

Pasys Covid

Pan ddaeth pasys Covid i rym ym mis Hydref, cysylltodd nifer o etholwyr i rannu eu pryderon ynglŷn â'r ffaith nad yw’r canllawiau yn ddigon clir i'r rhai sydd wedi'u heithrio rhag cael y brechlyn a chymryd profion llif  oherwydd cyflyrau meddygol.

Darllenwch fwy
Ychwanegwch eich ymateb Rhannu

Mae hyn yn dechrau gyda chi

Ganddyn nhw mae'r arian, ond gennym ni mae'r bobl. Os yw pawb sy'n ymweld â'r wefan hon yn ymuno â'n symudiad yna does dim na allwn ei gyflawni.

Ymgyrchoedd