Cynhaliodd Heledd Fychan, Aelod o’r Senedd dros Ganol De Cymru, ei chyfarfod cymunedol diweddaraf yn y Porth yr wythnos diwethaf (22ain o Ebrill). Cododd trigolion Porth lawer o faterion a phryderon am faterion lleol, trafnidiaeth gyhoeddus, a gwasanaethau iechyd a gofal. Roedd materion yn amrywio o gyflwr y palmant lleol a baw cŵn i bryderon am gyfnewidfa newydd y Porth a diffyg toiledau cyhoeddus.
Mae Heledd Fychan AS wedi ymrwymo i weithio gyda'r gymuned i fynd i'r afael â'r materion hyn a dywedodd, "Mae bob amser yn bwysig bod mor weladwy â phosibl yn ein cymunedau. Dylai'r holl drigolion gael y cyfle i godi materion yn uniongyrchol gyda'u haelodau etholedig. Mae'r digwyddiadau hyn yn hanfodol i’m gwaith fel Aelod o’r Senedd lle gallaf glywed fy hun am bryderon trigolion a gweithio gyda nhw i’w datrys.”
Bydd Heledd Fychan AS nawr yn gweithredu ar bryderon y trigolion ac yn gweithio ochr yn ochr â’r gymuned i’w datrys. Mae Heledd yn gobeithio cynnal cymaint o gyfarfodydd cymunedol â phosibl ar draws y rhanbarth a byddai'n annog unrhyw un i gysylltu os hoffent gael cyfarfod yn eu cymuned nhw.
Dangos 1 ymateb
Mewngofnodi gyda
Mewngofnodi gyda Facebook Mewngofnodi gyda Twitter