“Rhaid stopio'r esgusodion a'r gwastraff amser a thalu'r hyn sy'n ddyledus” – mynnu cyfiawnder i anghyfiawnderau pensiwn.

Mae Heledd Fychan yn croesawu bod Plaid Cymru wedi galw ar y Lywodraeth Lafur yng Nghymru i weithredu ar anghyfiawnderau pensiynau hanesyddol, i gefnogi dioddefwyr y sgandalau hyn.
Mewn cynnig i'w drafod yn y Senedd ddydd Mercher (21 Mai 2025), mae Plaid Cymru yn galw ar Lywodraeth Lafur Cymru i ‘gyflwyno'r achos’ ar anghyfiawnderau pensiwn hanesyddol. Ymateb Llafur oedd i ‘ddileu’ y galwadau.
Mae'r cynnig gan Blaid Cymru yn nodi'r anghyfiawnderau pensiwn sylweddol a hir sefydlog, sy'n deillio fel canlyniad i ddiffyg gweithredu Llywodraethau olynol y DU. Mae'r cynnig hefyd yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyflwyno'r achos i Lywodraeth y DU ar y materion hyn.
Dadl yn y Senedd yn Amlygu’r Newyn a Chaledi Cynyddol yng Nghymru

Ar 14 Mai 2025, cynhaliwyd dadl yn y Senedd gan Heledd Fychan, Aelod Senedd Plaid Cymru dros Ganol De Cymru, a oedd yn canolbwyntio ar yr argyfwng newyn a chaledi ariannol sy'n dwyshau ledled Cymru.
Pencampwr y Senedd dros y Madfall Ddŵr Cribog

Roedd neithiwr yng Ngerddi Dyffryn yn brofiad gwych! Fel pencampwr rhywogaethau dros y Fadfall Gribog Fawr, roedd yn anhygoel eu gweld yn eu cynefin naturiol.
Ymweliad â banc bwyd Taff-ely

Roedd hi'n wych ymweld unwaith eto gyda Banc Bwyd Taf-Elai ddydd Llun a chael sgwrs gydag Andrew a Matthew am yr ymgyrch "Gwarantu'r Hanfodion" Trussell yn ogystal â'r banc babanod newydd sy'n agor yno. Mae'n amlwg faint o waith caled sy'n mynd i gefnogi unigolion a theuluoedd yn ein cymuned.
Heledd Fychan AS yn Sefyll mewn Undod â'r Gymuned Traws

Mae dyfarniad diweddar y Goruchaf Lys wedi achosi gofid o fewn y gymuned drawsryweddol. Mae Plaid Cymru yn pwysleisio na ddylid gweld y penderfyniad hwn fel buddugoliaeth i un grŵp dros un arall. Rydym yn parhau i fod yn gadarn yn ein hymrwymiad i amddiffyn hawliau pawb, cefnogi hawliau menywod a phobl Traws, a chynnal egwyddor hunan-adnabod.
Codi sbwriel – Heol Berw a Stryd Sion

Yn dilyn misoedd o law trwm a llifogydd ar ddechrau'r flwyddyn, roedd llawer o sbwriel wedi casglu ar hyd glannau’r afon Taf yn Heol Berw a Stryd Sion ym Mhontypridd. I helpu i lanhau, trefnais sesiwn casglu sbwriel gyda grŵp o wirfoddolwyr.
Gweithion ni’n galed gan gasglu 51 bag o sbwriel! Ymunodd 20 o wirfoddolwyr, gan wneud gwahaniaeth mawr i'r ardal. Doedd hi ddim yn bosibl i glirio poeth ond mae’r ardal yn edrych llawer iawn gwell ac mae’n fwy diogel i'r gymuned a bywyd gwyllt.
GWASANAETHAU CYHOEDDUS CYMRU YN WYNEBU TWLL ARIANNOL O £65 MILIWN

Heddiw, mae Mark Drakeford wedi cadarnhau bydd Trysorlys y DU yn defnyddio'r fformiwla Barnett i gyfrifo cyfran Cymru o gyllid i ddiogelu sefydliadau'r sector cyhoeddus rhag cynnydd Yswiriant Gwladol Llafur.
Mae Plaid Cymru yn dweud y bydd hyn yn gadael gwasanaethau cyhoeddus Cymru yn wynebu twll ariannol.
Mae gan Gymru ganran uwch o weithwyr yn y sector cyhoeddus, o'i gymharu â Lloegr a gweddill y DU.
Heledd Fychan AS yn arwain dadl ar Ymgyrch Niwroamrywiaeth Sefydliad y Merched yn y Senedd

Ddydd Mercher, 26ain Mawrth, arweiniodd Heledd Fychan, Aelod Plaid Cymru o’r Senedd dros Ganol De Cymru, ddadl yn y Senedd wedi’i hysbrydoli gan ymgyrch Sefydliad y Merched (WI), Meddwl yn Wahanol: Menywod a Merched Awtistig ac ADHD. Amlygwyd y rhwystrau systemig sy’n wynebu menywod a merched niwroamrywiol yn y ddadl a galwyd am gamau brys i wella diagnosis a chefnogaeth.
Wrth siarad yn y Senedd, talodd Ms Fychan deyrnged i’r nifer o fenywod a merched awtistig ac ADHD y mae eu lleisiau’n parhau i ysbrydoli newid. Mynegodd ei diolch i’r WI, yn enwedig Ann Ball o WI Pontypridd a Maggie Knight o Glam Girls, sydd wedi hyrwyddo’r ymgyrch Meddwl yn Wahanol yn ddi-flino.
Plaid Cymru yn galw am ddadl frys yn y Senedd ar doriadau lles Llafur
Bydd toriadau yn cael effaith “anghymesur” ar Gymru – Heledd Fychan

Mae Plaid Cymru wedi galw am ddadl frys yn y Senedd ar ôl i Ganghellor Llafur y DU gyhoeddi biliynau mewn toriadau lles.
Dywedodd llefarydd cyllid Plaid Cymru, Heledd Fychan, fod yn rhaid i’r Prif Weinidog Eluned Morgan “nodi ar fyrder” sut y bydd yn amddiffyn Cymru rhag y toriadau a wnaed i les gan ei chydweithwyr Llafur.
Ymweliad i Ysgol Capcoch

