Newyddion

Safon gwasanaethau bws is-raddol yn effeithio ar ein cymunedau

Safle BwsYn ddiweddar, cynhaliais arolwg am wasanaethau bysiau lleol, ar ôl derbyn nifer o gwynion gan breswylwyr sy'n byw yn ardal ehangach Pontypridd.  Ar ôl codi’r pryderon hyn yn y Senedd o’r blaen, roeddwn i eisiau darganfod mwy am sut mae preswylwyr yn teimlo am y gwasanaeth a’r modd y mae gwasanaethau hwyr neu ddiffyg gwasanaeth yn effeithio  arnyn nhw.

Mae 74% o'r rhai a ymatebodd yn nodi bod y gwasanaeth yn annibynadwy a ddim yn cynnig gwerth am arian.  Nodwyd bod hyn yn cael effaith amlwg ar eu bywydau.

 

Darllenwch fwy
Ychwanegwch eich ymateb Rhannu

Pyllau padlo yn RhCT yn ailagor dros yr haf

Yn dilyn amser heriol i bob un ohonom, roedd yn hyfryd ymweld â'r pyllau padlo a'u gwirfoddolwyr ym Mhenygraig a Treorci ddoe.

Roedd yn wych gweld pawb yn mwynhau'r pyllau a gweld a chlywed pa mor boblogaidd oeddynt gyda pobl o bob oed.

Darllenwch fwy
Ychwanegwch eich ymateb Rhannu

Plaid Cymru yn galw am bwll nofio maint Olympaidd i ogledd Cymru

pwllMae chwe aelod o dîm Nofio Cymru wedi ennill lle yn y Gemau Olympaidd eleni – record newydd

 Fe allai pwll maint Olympaidd yng ngogledd Cymru greu mwy o gyfleoedd i nofwyr yn yr ardal, mae Plaid Cymru yn dweud.

Bydd seremoni agoriadol gemau Olympaidd Tokyo yn cael ei chynnal heddiw, gan ddechrau cystadleuaeth sy'n cynnwys record o chwe nofiwr o Gymru.

Dathlodd llefarydd Plaid Cymru dros Chwaraeon, Heledd Fychan AS y llwyddiant, gan nodi bod gwylio athletwyr o Gymru yn "dod â ni at ein gilydd yn ein balchder dros Gymru" fel y dangoswyd gan Bencampwriaeth Ewropeaidd UEFA yn gynharach yr haf hwn.

Darllenwch fwy
Ychwanegwch eich ymateb Rhannu

Adroddiad Wythnosol 9 Gorffenaf 2021

Adroddiad Senedd 9 Gorffennaf 2021

Mae wedi bod yn wythnos amrywiol iawn, gyda nifer o drigolion o bob rhan o'r rhanbarth yn cysylltu am ystod eang o faterion gwahanol. Gyda dim ond wythnos i fynd cyn i'r Senedd dorri am yr haf, rwyf yn ceisio cael cyfleoedd i godi pethau'n uniongyrchol gyda Gweinidogion. Mae pwyllgorau hefyd yn cyfarfod am y tro cyntaf yr wythnos nesaf, a cadarnhawyd y byddaf yn aelod o'r Pwyllgor Diwylliant, Iaith Gymraeg, Cyfathrebu, Chwaraeon a Chysylltiadau Rhyngwladol yn ogystal â'r Pwyllgor Safonau.

Darllenwch fwy
Ychwanegwch eich ymateb Rhannu

Heledd yn gofyn i ail-agor Canolfan Iâ Cymru

Mae Heledd Fychan AS wedi gofyn i'r llywodraeth i edrych eto ar y penderfyniad i gadw Canolfan Iâ Cymru ar gau. 

 

Darllenwch fwy
Ychwanegwch eich ymateb Rhannu

Adroddiad Wythnosol 18/6/21

O’r Senedd

Bu'n wythnos brysur arall yn y Senedd, yn mynychu cyfarfodydd gyda thrigolion ac ymdrin â gwaith achos. Rwyf hefyd wedi dod o hyd i swyddfa yng nghanol tref Pontypridd, sy'n gyffrous iawn. Rwyf yn gobeithio y gallaf rannu mwy o newyddion am hyn gyda chi yn fuan iawn!

Darllenwch fwy
Ychwanegwch eich ymateb Rhannu

Galw am Welliannau Brys i Wasanaethau Bws Lleol

Heledd yn Galw am Welliannau Brys i Wasanaethau Bws Lleol

 

Heddiw, siaradodd yr Aelod o’r Senedd Heledd Fychan yn y Senedd, gan alw am welliannau brys i wasanaethau bysiau ledled Canol De Cymru.

Darllenwch fwy
Ychwanegwch eich ymateb Rhannu

Culture is Ordinary

Wales Arts Review

Dyma gopi o erthygl a gyhoeddwyd gyntaf yn The Wales Arts Review - gallwch ei darllen trwy glicio yma.


 

Over the past year, most of us have found solace, comfort or inspiration from the arts and culture in one form or another.

It may have been binge-watching our favourite TV box sets or re-discovering a love for painting or writing. Or it may have been taking up a new hobby, such as sewing or learning to play an instrument when the restrictions were at their strictest. Doing something that brought us joy, at a time when there was such despair. 

Darllenwch fwy
Ychwanegwch eich ymateb Rhannu

Cyhoeddi Cabinet Cysgodol

Heledd Fychan a Rhys ap OwenHeddiw cyhoeddodd Plaid Cymru ei gabinet cysgodol newydd. Mae gan Aelodau Canol De Cymru Heledd Fychan a Rhys ap Owen bortffolios Diwylliant, Chwaraeon a Materion Rhyngwladol a Chyfansoddiad a Chyfiawnder. Mae rhestr lawn isod.

Darllenwch fwy
Ychwanegwch eich ymateb Rhannu

Mae Heledd yn pwyso ar y Prif Weinidog ar ddiffyg Gweinidog Diwylliant a Chwaraeon

Wrth i Mark Drakeford wneud datganiad ar benodi ei gabinet newydd defnyddiodd Heledd y cyfle i gwestiynu pam mai dim ond swydd iau yn ei lywodraeth oedd Diwylliant a Chwaraeon ond swydd uwch yn Llundain a Chaeredin.

Darllenwch fwy
Ychwanegwch eich ymateb Rhannu

Mae hyn yn dechrau gyda chi

Ganddyn nhw mae'r arian, ond gennym ni mae'r bobl. Os yw pawb sy'n ymweld â'r wefan hon yn ymuno â'n symudiad yna does dim na allwn ei gyflawni.

Ymgyrchoedd