Tystiolaeth i'r adolygiad o adroddiadau adran 19 llywodraeth leol a Cyfoeth Naturiol Cymru i lifogydd eithafol

Mae Canol De Cymru'n cynnwys cymunedau o fewn ffiniau Awdurdodau Lleol Rhondda Cynon Taf, Caerdydd a Bro Morgannwg. Er bod llifogydd yn ddigwyddiad rheolaidd mewn llawer o gymunedau yn y rhanbarth, heb os, y llifogydd a ddigwyddodd yn Chwefror 2020 o ganlyniad i Storm Dennis oedd y gwaethaf ers degawdau gyda 1,498 o gartrefi a busnesau yn Rhondda Cynon Taf yn unig dan ddŵr. Roedd 21 eiddo pellach yng Nghaerdydd wedi dioddef llifogydd hefyd. Cafwyd achosion pellach o lifogydd mewn rhai o'r un cartrefi ym mis Mehefin 2020. Ym mis Rhagfyr 2020, effeithiwyd ar 18 eiddo yn Sili gan lifogydd dŵr wyneb, a 98 eiddo yn Ninas Powys.

Achoswyd difrod helaeth i isadeiledd hefyd gan gynnwys pontydd, rhwydweithiau rheilffyrdd a ffyrdd, parciau busnes a chyfleusterau hamdden.

Pan ddigwyddodd y llifogydd yn Chwefror 2020, roeddwn i'n gynghorydd dros ward Tref Pontypridd. Dioddefodd cartrefi a busnesau lifogydd dinistriol, ac ynghyd â chydweithwyr, gweithredwyr cymunedol, grwpiau gwirfoddol, perchnogion busnesau, staff a chynghorwyr o'r awdurdod lleol a chynghorau tref a chymuned, roeddwn i'n rhan o'r ymateb brys gan gynnig cymorth ymarferol ac emosiynol i lawer.

Gwnaeth gweld y dinistr a'r trawma â'm llygaid fy hun fy sbarduno i gyflwyno deiseb yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddechrau Ymchwiliad Annibynnol i'r llifogydd. Fe'i llofnodwyd gan dros 6,000 o bobl, a chafodd ei thrafod yn y Senedd sawl gwaith.

Ym Mai 2021, cefais fy ethol yn Aelod o'r Senedd dros y rhanbarth ac addewais y byddwn yn parhau i frwydro dros gyfiawnder i'r cymunedau a effeithiwyd sy'n dal i fod mewn perygl.

Casglwyd y dystiolaeth a welir yn yr adroddiad hwn gennyf i yn ystod fy nghyfnod fel Cynghorydd, a chan fy nhîm ers i mi gael fy ethol i'r Senedd. Mae'n cynnwys tystiolaeth gan lawer o'r rhai sydd wedi dioddef llifogydd, ac maen nhw'n dal wedi eu hysgwyd gan drawma sylweddol yn sgil eu profiadau yn ogystal â'r bygythiad parhaus.

Er bod llawer o bobl yn falch o weld yr adolygiad annibynnol yma'n digwydd, mae 89%[1] o'r trigolion a holwyd yn dal i gredu bod angen ymchwiliad annibynnol.

 

Darllen y Tystiolaeth gan cliciwch y llun isod.


Dangos 1 ymateb

Edrychwch yn eich e-bost am ddolen i fywiogi eich cyfrif.
  • Brooke Webb
    published this page in Newyddion 2023-09-15 11:27:58 +0100

Mae hyn yn dechrau gyda chi

Ganddyn nhw mae'r arian, ond gennym ni mae'r bobl. Os yw pawb sy'n ymweld â'r wefan hon yn ymuno â'n symudiad yna does dim na allwn ei gyflawni.

Ymgyrchoedd