Newyddion

Heledd Fychan AS yn pleidleisio Dim Hyder yn Vaughan Gething, Prif Weinidog Llafur Cymru

Heddiw, cefnogodd mwyafrif o Aelodau’r Senedd gynnig diffyg hyder yn Vaughan Gething, Prif Weinidog Cymru. Mae'r bleidlais hon yn dangos bod pryderon difrifol am ei arweinyddiaeth.

Darllenwch fwy
Ychwanegwch eich ymateb Rhannu

Diweddariad Senedd

Fel y bydd llawer ohonoch yn ymwybodol ddechrau'r mis hwn daeth Plaid Cymru â'i Cytundeb Cydweithio i ben gyda  Llywodraeth Lafur Cymru.  Rwy'n falch o'r hyn a gyflawnwyd drwy'r Cytundeb Cydweithio dros y ddwy flynedd ddiwethaf megis prydau ysgol am ddim i bob disgybl ysgol gynradd, ehangu'r cynnig gofal plant am ddim i filoedd yn fwy o deuluoedd, cymryd camau i fynd i'r afael â'r argyfwng tai, camau i ddiogelu'r Gymraeg a mwy. Byddwn bob amser yn cydweithio pan allwn i gyflawni ar gyfer ein cymunedau. Ond mae'r amser wedi dod i'r cytundeb ddod i ben. Ers cymryd yr awenau fel Prif Weinidog Cymru, mae Vaughan Gething eisoes wedi penderfynu gohirio polisïau pwysig fel diwygio'r dreth gyngor oedd i fod i gefnogi'r teuluoedd tlotaf yn ein cymuned. Mae hefyd wedi colli ymddiriedaeth fy hun a llawer o bobl eraill trwy fethu â thalu yn olrhodd o £200,000 i'w ymgyrch arweinyddiaeth gan gwmni a gafwyd yn euog o droseddau amgylcheddol. Mae angen Llywodraeth Cymru y gallwn ymddiried ynddo a fydd minnau a fy nghydweithwyr ym Mhlaid Cymru yn parhau i ddwyn Llywodraeth Cymru i gyfrif ar bob penderfyniad.

Darllenwch fwy
Ychwanegwch eich ymateb Rhannu

“MAE’N SECTOR ADDYSG UWCH MEWN ARGYFWNG” – HELEDD FYCHAN AS Plaid Cymru yn galw ar Lywodraeth Cymru am gynllun brys i sicrhau hyfywedd ariannol prifysgolion Cymru

Mae Heledd Fychan, llefarydd Plaid Cymru dros Addysg wedi ysgrifennu ar frys at Ysgrifennydd Cabinet dros Addysg Llywodraeth Cymru, yn galw am adolygiad brys i gyflwr addysg uwch yng Nghymru, yn dilyn adroddiadau pryderus gan Brifysgolion Aberystwyth a Chaerdydd am bwysau ariannol a allai arwain at golli swyddi.

 

Darllenwch fwy
Ychwanegwch eich ymateb Rhannu

TIPIAU GLO ANNIOGEL YN 'ATGOF DYDDIOL O'R RHEIBIO HANESYDDOL' O GYMUNEDAU CYMRU, medd Plaid Cymru

Mae Plaid Cymru yn annog Llywodraeth y DU i dalu tuag at wneud cannoedd o domenni a hen domenni glo yn ddiogel

Mae data diweddar (Tachwedd 2023) yn dangos bod 81 o domenni glo anniogel ar draws Rhondda Cynon Taf a Chaerdydd.

Casglwyd y wybodaeth gan y Tasglu Diogelwch Tomenni Glo, a sefydlwyd ar ôl tirlithriad mewn hen domen lo yn Tylorstown, Rhondda Cynon Taf, ym mis Chwefror 2020.

Darllenwch fwy
Ychwanegwch eich ymateb Rhannu

HELEDD FYCHAN AS YN GALW AM FYNEDIAD CYFARTAL I ADDYSG I BLANT A PHOBL IFANC AG ANGHENION DYSGU YCHWANEGOL

Dros y ddwy flynedd ddiwethaf, mae’r Aelod o’r Senedd Plaid Cymru dros Ganol De Cymru, Heledd Fychan, wedi gweld cynnydd yn nifer yr etholwyr sy’n dweud wrthi eu bod yn brwydro i sicrhau addysg addas i’w plant sydd gyda anghenion dysgu ychwanegol. Arweiniodd hyn at Heledd i gynnal arolwg ac yna cynhyrchu adroddiad oedd yn cynnwys y profiadau torcalonnus a dewr a rannwyd gyda hi. 

Darllenwch fwy
Ychwanegwch eich ymateb Rhannu

Celf Cwrdaidd yn y Senedd

Rwy’n un o ddau Aelod o’r Senedd sy’n noddi arddangosfa Celf Gwrdaidd, i’w gweld yn adeilad y Pierhead ar hyn o bryd.

 

Darllenwch fwy
Ychwanegwch eich ymateb Rhannu

Heledd Fychan AS yn mynegi pryder ynghylch y newyddion bod dros 100 o swyddi yn y fantol yn Rhondda Cynon Taf

Yn dilyn y newyddion bod Everest wedi cael eu rhoi yn nwylo’r gweinyddwyr gan roi dros 100 o swyddi yn Rhondda Cynon Taf yn y fantol, mae Aelod Seneddol rhanbarthol Plaid Cymru, Heledd Fychan, wedi mynegi ei phryder ac wedi annog Llywodraeth Cymru i roi cymorth i’r rhai sydd wedi eu heffeithio. 

Darllenwch fwy
Ychwanegwch eich ymateb Rhannu

Heledd Fychan AS yn gwrando ar bryderon y gymuned mewn cyfarfod cyhoeddus diweddar.

Cynhaliodd Heledd Fychan, Aelod o’r Senedd dros Ganol De Cymru, ei chyfarfod cymunedol diweddaraf yn y Porth yr wythnos diwethaf (22ain o Ebrill). Cododd trigolion Porth lawer o faterion a phryderon am faterion lleol, trafnidiaeth gyhoeddus, a gwasanaethau iechyd a gofal. Roedd materion yn amrywio o gyflwr y palmant lleol a baw cŵn i bryderon am gyfnewidfa newydd y Porth a diffyg toiledau cyhoeddus.

Darllenwch fwy
Ychwanegwch eich ymateb Rhannu

Heledd Fychan AS yn cymryd rhan yn rhaglen Leonard Cheshire My Voice My Choice.

Diolch yn fawr i Josh Reeves a LCCymru am drefnu sesiwn holi ac ateb gwych yng nghanolfan gymunedol Maerdy heddiw.
Mae gennym lawer o waith i’w wneud i sicrhau bod ein cymunedau yn gwbl hygyrch i bobl ag anableddau. Rwy'n edrych ymlaen i gefnogi’r holl ymgyrchoedd drafodwyd heddiw i greu newid gwirioneddol.
Ychwanegwch eich ymateb Rhannu

Plaid Cymru yn beirniadu Arweinydd Llafur Cyngor Caerdydd am feio staff Sain Ffagan am heriau Amgueddfa Cymru

Mae llefarydd Plaid Cymru dros Ddiwylliant, Heledd Fychan AS, wedi beirniadu Arweinydd Llafur Cyngor Caerdydd, Huw Thomas, a wnaeth sylwadau "sarhaus a di-sail" neithiwr yn beio staff a Sain Ffagan am heriau sylweddol yr Amgueddfa Genedlaethol.

Wrth siarad ar raglen Y Byd Yn Ei Le ar S4C nos Iau, tynnodd Huw Thomas sylw at y ffaith bod dros £30 miliwn wedi ei wario ar brosiect Sain Ffagan tua phum mlynedd yn ôl, gan ychwanegu y byddai uwch reolwyr yn yr Amgueddfa wedi bod yn ymwybodol o 'issues' ar y pryd.

Darllenwch fwy
Ychwanegwch eich ymateb Rhannu

Mae hyn yn dechrau gyda chi

Ganddyn nhw mae'r arian, ond gennym ni mae'r bobl. Os yw pawb sy'n ymweld â'r wefan hon yn ymuno â'n symudiad yna does dim na allwn ei gyflawni.

Ymgyrchoedd