“Cam yn ôl i Addysg Gymraeg” - Heledd Fychan AS yn galw ar y Gweinidog Addysg i ymyrryd mewn penderfyniad i agor Ysgol Saesneg newydd yn Glyncoch, Rhondda Cynon Taf

Yn dilyn y cyhoeddiad y bydd ysgol Saesneg newydd yn Glyncoch yn un o dair ysgol newydd carbon sero net i gael ei hariannu gan Lywodraeth Cymru, mae’r Aelod o’r Senedd dros Ganol De Cymru, Heledd Fychan, wedi ysgrifennu at y Gweinidog dros y Gymraeg ac Addysg a gofyn iddo ail-ystyried cyfrwng iaith yr ysgol ar fyrder.

Ers blynyddoedd bellach, mae ymgyrchwyr dros addysg Gymraeg yn yr ardal wedi bod yn galw am ysgol Gymraeg newydd ar yr union safle lle bydd yr ysgol hon yn cael ei hadeiladu. Daw hyn yn sgil y penderfyniad i gau Ysgol Gynradd Gymraeg Pont Sïon Norton ac agor ysgol Gymraeg newydd ar safle Ysgol Heol y Celyn, fydd filltiroedd yn bellach o ardaloedd Ynysybwl a Glyncoch.

Dywedodd Ms Fychan: “Mae pryder gwirioneddol yn yr ardal am ddyfodol y Gymraeg, a chred nifer y bydd yr ysgol newydd hon yn gam yn ôl o ran yr Iaith ac addysg Gymraeg.

“Er bydd trafnidiaeth yn cael ei ddarparu i ysgol Gymraeg newydd, bydd rhieni heb gar angen teithio ar ddau fws i’w plant ddefnyddio'r clwb brecwast; os oes angen casglu eu plant ar gyfer apwyntiad brys neu os ydynt yn sâl; neu os yw eu plant yn mynychu clybiau ar ôl ysgol.

“Gyda’r canran o aelwydydd sy’n berchen ar geir ymysg yr isaf yng Nghymru yn yr ardaloedd hyn, nifer fach o rieni fydd yn dewis gyrru eu plant i ysgol Gymraeg sy’n anos a drytach i’w chyrraedd na’r ysgol Saesneg newydd hon.

 “A ninnau gydag uchelgais o filiwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050 yma yng Nghymru, rwyf yn synnu yn fawr gweld Llywodraeth Cymru yn buddsoddi mewn cynllun fydd yn niweidio’r Gymraeg yn yr ardal. Rhaid i Lywodraeth Cymru ail-ystyried cyfrwng Iaith yr ysgol hon, a hynny ar fyrder.”


Dangos 1 ymateb

Edrychwch yn eich e-bost am ddolen i fywiogi eich cyfrif.
  • Brooke Webb
    published this page in Newyddion 2023-03-30 15:14:40 +0100

Mae hyn yn dechrau gyda chi

Ganddyn nhw mae'r arian, ond gennym ni mae'r bobl. Os yw pawb sy'n ymweld â'r wefan hon yn ymuno â'n symudiad yna does dim na allwn ei gyflawni.

Ymgyrchoedd