Heledd Fychan AS yn croesawu ymestyn prydau ysgol am ddim

Mae'r Aelod o'r Senedd Plaid Cymru Heledd Fychan wedi croesawu’r cyhoeddiad heddiw y bydd £70 miliwn o gyllid yn cefnogi’r cam nesaf yn y gwaith o ehangu prydau ysgol am ddim ym mhob ysgol gynradd yng Nghymru, diolch i’r Cytundeb Cydweithio rhwng Plaid a Llywodraeth Cymru.

O fis Medi 2023, bydd y rhan fwyaf o ardaloedd Awdurdodau Lleol Cymru yn darparu prydau ysgol i blant blynyddoedd 3 a 4. Bydd y rhaglen wedyn yn ehangu ymhellach ym mis Ebrill 2024, gan gyrraedd blynyddoedd pump a chwech.

Lle mae awdurdodau lleol yn gallu ymestyn hyn yn gynt, maent wedi cael eu hariannu i wneud hynny.

Mae £260m wedi'i ymrwymo i weithredu'r rhaglen yng Nghymru dros dair blynedd. Mae hyn yn cynnwys £60m o gyllid cyfalaf ar gyfer awdurdodau lleol a fuddsoddwyd dros y ddwy flynedd ddiwethaf i gefnogi gwelliannau i gyfleusterau ceginau ysgol, gan gynnwys prynu offer a diweddaru systemau digidol.

Fel rhan o Gytundeb Cydweithio Plaid Cymru gyda Llywodraeth Cymru, bydd pob disgybl ysgol gynradd yng Nghymru yn gymwys i gael prydau ysgol am ddim erbyn 2024.

Mewn ymweliad diweddar a Ysgol Garth Olwg, gwelodd Heledd y polisi ar waith yn ystod amser cinio prysur yn y ffreutur ac wrth siarad yn dilyn yr ymweliad, dywedodd: “Roedd yn wych ymweld a Ysgol Garth Olwg, a gweld disgyblion yn mwynhau pryd o fwyd blasus a maethlon o ganlyniad i'r cytundeb Cydweithio.

“Ni ddylai unrhyw blentyn fod yn llwgu, a chredwn fod cinio ysgol am ddim yn gam hanfodol tuag at fynd i’r afael â thlodi plant.

"Yn bersonol, hoffwn weld y ddarpariaeth yn cael ei ehangu i ddisgyblion oed uwchradd hefyd - rhywbeth y byddaf i a fy nghydweithwyr Plaid Cymru yn parhau i wthio amdano."


Dangos 1 ymateb

Edrychwch yn eich e-bost am ddolen i fywiogi eich cyfrif.
  • Heledd Fychan
    published this page in Newyddion 2023-05-11 13:51:21 +0100

Eisiau clywed mwy gan eich AS? Cofrestrwch isod

Ymgyrchoedd