January 19 2026, 1:46 yh
Ers y cyhoeddiad bod City Energy Group yn mynd i ddwylo'r gweinyddwyr a'r effaith nid yn unig ar yr unigolion a'r teuluoedd dan sylw ond y bobl a ddioddefodd gan waith anghyflawn neu waith o ansawdd gwael drwy'r Cynllun ECO4, holodd Plaid Cymru Lywodraeth Cymru am gefnogaeth ynghylch hyn yn y Senedd yr wythnos diwethaf.
Fe wnes i rannu'n rhai o'r problemau y mae fy etholwyr wedi'u hwynebu gyda'r gwaith yng nghyfarfod llawn y Senedd, gan gynnwys diffyg gwresogi a'r effaith ar iechyd.
Darllenwch fwy
Ychwanegwch eich ymateb
Rhannu
January 15 2026, 11:38 yb

Rwyf wedi cefnogi Ymgyrch Achub Cludiant Ysgol RCT ers tro byd, ac roeddwn yn falch o allu cefnogi eu deiseb wrth iddi gael ei thrafod yn y Senedd ddoe.
Roedd hi’n wych croesawu Tina Collins ac eraill o Ymgyrch Achub Cludiant Ysgol RhCT i'r Senedd heddiw ynghyd a Becci Smart o Penybont cyn y ddadl
ar eu deisebau am Gludiant Ysgol. Mae hwn yn uchafbwynt blynyddoedd o ymgyrchu i wella mynediad ledled Cymru.
Darllenwch fwy
Ychwanegwch eich ymateb
Rhannu
December 18 2025, 3:03 yh
Yn y Siambr yr wythnos hon, gofynnais i Ysgrifennydd y Cabinet sicrhau buddsoddiad mewn atebion trefol sy'n seiliedig ar natur ar gyfer lleihau’r risg llifogu y tu hwnt i'r model amddiffynfeydd traddodiadol, sy'n gynaliadwy ac yn effeithiol fel y dangosir mewn adroddiad diweddar gan WWF
“Atebion Trefol sy'n Seiliedig ar Natur ar gyfer Lliniaru Risg Llifogydd”.
Mae Llywodraeth Cymru yn cydnabod bod mwy i'w wneud mewn ardaloedd trefol, gyda ffocws y tu hwnt i'r atebion naturiol yn yr ardaloedd ucheldir.
Byddai hyn o fudd mawr i'r ardaloedd trefol rwy'n eu cynrychioli yn fy rhanbarth, fel Pontypridd a Ffynnon Taf.
Ychwanegwch eich ymateb
Rhannu
December 16 2025, 5:10 yh
Fe wnes i fwynhau cyfarfod 140 o fyfyrwyr blwyddyn 12 a 13 Ysgol Uwchradd Gartholwg yng nhgwmni tîm addysg y Senedd ddoe.
Roedd yn gyfle iddynt ddysgu mwy am y Senedd a’r etholiad sydd i ddod y flwyddyn nesaf, a’u cyfle i benderfynu pwy fydd yn arwain ein llywodraeth nesaf drwy ddefnyddio eu pleidlais am y tro cyntaf.
Fe siaradais am fy mywyd fel Aelod Senedd Plaid Cymru, beth am hysgogodd i ddod yn wleidydd a thrafod materion o bwys i'r disgyblion yn lleol a chenedlaethol, gan gynnwys mynd i'r afael â phroblemau llifogydd yr ardal a chreu cyfleoedd hyfforddiant a gwaith yma yn ein hardal.
Diolch i’r disgyblion am y croeso a’r cwestiynnau.
Ychwanegwch eich ymateb
Rhannu
December 16 2025, 2:00 yh
Ro'n i’n falch o weld Deddf Gwasanaethau Bysiau (Cymru) yn pasio yn y Senedd ddoe. Rwy’n arbennig o falch bod Plaid Cymru wedi gallu gweithio gyda Llywodraeth Cymru i sicrhau bod addysg yn cael ei chydnabod fel blaenoriaeth ar wyneb y Ddeddf, ac mae hyn yn creu dyletswydd i ystyried mynediad at addysg, gan gynnwys addysg uwch, wrth gynllunio’r rhwydwaith bysiau.
Rwyf wedi ymgyrchu ers amser maith dros wasanaethau bysiau gwell i ysgolion yn fy rhanbarth ac mae’n parhau i fod yn rhwystr sylweddol i lawer o fy etholwyr. Dwi'n gobeithio bydd y Bil hwn a’n gwaith yn y Pwyllgor Deisebau yn dod â gwasanaethau bysiau gwell yn gyffredinol i’n plant a’n myfyrwyr yn y blynyddoedd i ddod.
Ychwanegwch eich ymateb
Rhannu
December 16 2025, 10:54 yb

Hoffwn rannu fy nheyrnged yn y Senedd heddiw i Kyle Sieniawski o Bontypridd a fu farw’n drasig ddiwedd mis Tachwedd yn bedair ar ddeg oed, ar ôl derbyn diagnosis dinistriol o Glefyd Niwronau Motor yn gynharach eleni.
Roedd Kyle yn fachgen hyfryd, gofalgar ac ysbrydoledig a gafodd ei gymryd yn llawer rhy gynnar. Er gwaethaf y gofal gwych a gafodd yn yr ysbyty, roedd Kyle eisiau dod adref. Gwnaeth ei deulu bopeth posibl i geisio gwneud i hyn yn bosib, hyd yn oed rhoi eu cartref ar y farchnad gan nad oedd yn addas ar gyfer addasiadau. Yn anffodus, ni chafodd ei ddymuniad erioed ond mae ei deulu wedi addo parhau i ymgyrchu er cof am Kyle i sicrhau nad oes rhaid i unrhyw deulu fynd trwy’r hyn a wnaethant.
Darllenwch fwy
Ychwanegwch eich ymateb
Rhannu
November 26 2025, 10:40 yb

Mynychais y Pwyllgor Deisebau yr wythnos hon, lle roeddent yn trafod dwy ddeiseb dw i wedi bod yn ymwneud yn agos â nhw – un yn ymwneud â chludiant ysgol a'r llall o ddiddordeb arbennig i'r rhai yr effeithiwyd arnynt gan Chwarel Craig yr Hesg sy'n galw am barth byffer gorfodol o leiaf 1,000 metr ar gyfer pob chwarel newydd a chwarel bresennol yng Nghymru. Gallwch weld y trafodaethau yn y linc yma.
Darllenwch fwy
Ychwanegwch eich ymateb
Rhannu
November 25 2025, 11:31 yb

Roedd yn bleser cymryd rhan mewn trafodaeth panel drawsbleidiol yr wythnos diwethaf, a gynhaliwyd gan Grayling yn Adeilad y Pierhead, a'i chymedroli gan Rob Osborne o ITV Cymru.
Roedd y drafodaeth, Chwe Mis i Fynd, yn gyfle i fyfyrio ar y cyd-destun gwleidyddol a safbwyntiau'r polau piniwn, yn enwedig canlyniad is-etholiad Caerffili a chynnig barn ar yr hyn y gallai hyn ei olygu ar gyfer bwriad pobl wrth bleidleisio wrth ddynesu at etholiadau’r Senedd fis Mai nesaf.
Darllenwch fwy
Ychwanegwch eich ymateb
Rhannu
November 20 2025, 12:53 yh

Rwyf wedi parhau i herio Llywodraeth Cymru i ddangos ffocws newydd i leihau ein dibyniaeth ar agregau cynradd ac i adolygu MTAN 1. Mae hyn yn hanfodol i sicrhau bod yr ymrwymiadau hynny'n cael eu cyflawni ym mhob cymuned, gan gynnwys y rhai yr effeithir arnynt gan chwarela yng Nghraig yr Hesg.
Bu i’r Prif Weinidog a'r Dirprwy Brif Weinidog dderbyn bod angen iddynt wneud mwy ar y mater hwn gyda'r Prif Weinidog yn cydnabod bod "rhaid cymryd effeithiau llwch, sŵn ac iechyd o ddifrif bob amser" a hefyd bod angen sicrhau cysondeb o ran gorfodi gan awdurdodau a'u bod yn cymryd camau gweithredu pan fydd amodau'n cael eu torri.
Darllenwch fwy
Ychwanegwch eich ymateb
Rhannu