Angen cynnyrch mislif dros yr Haf?

Nid yw mislif yn stopio oherwydd ei bod yn gwyliau, ac ni ddylai unrhyw un orfod poeni am fynediad at gynnyrch mislif hanfodol. Mae gan fy swyddfa ym Mhontypridd gynnyrch mislif am ddim ar gael i'r unrhyw un sydd eu hangen. Galwch mewn neu yrru neges breifat atom, a byddwn yn gwneud yn siwr eich bod yn eu derbyn.
Yn ogystal, gallwch ddod o hyd i gynhyrchion mislif am ddim dros yr haf yn y lleoliadau canlynol:
Pobl Ifanc yn ymuno â Heledd Fychan AS ar brofiad gwaith

Yr wythnos yma, rwyf i a’r tim wedi cael cwmni dwy o ddisgyblion Ysgol Plas Mawr ar brofiad gwaith gyda ni. Mae Hana a Seren wedi bod yn helpu'r tîm gydag amrywiaeth o tasgau amrywiol ac yn ymuno â mi ar ymweliadau i gwrdd ag etholwyr. Diolch i'r ddwy ohonoch am eich gwaith caled. Gobeithio eich bod wedi mwynhau'r profiad gymaint ag y gwnaethom ni!
Croesawu Merched y Wawr Pontypridd i'r Senedd

Yn ddiweddar, fe wnaeth Merched y Wawr Pontypridd ymweld â’r Senedd. Roedd yn braf gweld cymaint o wynebau cyfarwydd, a chael cyfle i drafod sut mae’r Senedd yn gweithio yn ogystal â fy ngwaith fel Aelod o’r Senedd.
Diwedd y Flwyddyn Seneddol

Wythnos yma oedd ein wythnos olaf yn siambr y Senedd tan fis Medi.
Roedd yn wythnos brysur, a thanllyd ar adegau, yn bennaf wrth imi a fy nghyd-aelodau o Blaid Cymru geisio cael atebion gan y Llywodraeth ar nifer o faterion o bwys cyn i’r toriad ddechrau.
Dathlu llwyddiannau timoedd Rygbi Byddar Cymru

Nos Fawrth, cafwyd cyfle i groesawu timoedd Rygbi dynion a merched Cymru i’r Senedd.
Yn gynharach eleni, fe wnaeth y ddau dim ennill Cwpan Rygbi Saith Bob Ochr Byddar y Byd yn yr Ariannin. Llwyddiant anhygoel a bendant gwerth dathlu. Llongyfarchiadau i bob un ohonynt a’r hyfforddwyr.
Dathlu 15 mlynedd o Gymru yn Genedl Masnach Deg!

Mae mis Gorffennaf yn nodi 15 mlynedd ers i Gymru ddod yn Genedl Masnach Deg gyntaf y byd!
Cynllun lliniaru llifogydd Pentre

Dw i wedi ymgyrchu’n frwd i sicrhau cefnogaeth i gymunedau sydd mewn perygl o lifogydd ers cael fy ethol yn Aelod o’r Senedd. Mae’r pwysau gwleidyddol gen i a grŵp Plaid Cymru yn y Senedd wedi llwyddo i ennill llawer o gonsesiynau a mwy o gefnogaeth ariannol i gynlluniau llifogydd ledled Cymru.
Banc bwyd Taf-Elái a chefnogaeth i deuluoedd

Yn ddiweddar, ces gyfle i ymweld â Banc Bwyd Taf-Elái ac i gwrdd ag Andrew a'i dîm ymroddedig o wirfoddolwyr. Yn ystod ein cyfarfod, buom yn trafod yr heriau y mae'r banciau bwyd yn eu hwynebu wrth ateb y galw mawr am eu gwasanaeth. Roedd yn dorcalonnus clywed am yr effaith ddinistriol y mae'r argyfwng costau byw yn ei chael ar bobl o bob oed, a faint o unigolion a theuluoedd sydd methu bwydo eu hunain a’u teuluoedd.
Dathlu 75 mlynedd o'r GIG yng Nghymru a brwydro dros ei ddyfodol

Wrth i Gymru ddathlu 75 mlynedd ers sefydlu'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (GIG), mae’r Aelod o'r Senedd Plaid Cymru dros Ganol De Cymru, Heledd Fychan, wedi talu teyrnged heddiw i staff rheng flaen ymroddedig sydd wedi darparu gwasanaeth a gofal amhrisiadwy ar hyd y blynyddoedd.
Dathlu Gweithredu Cymunedol

Braf oedd mynychu lansiad Planed Ponty yn Yma ym Mhontypridd. Mae'n wych gweld beth all ddigwydd pan ddaw'r gymuned at ei gilydd i wneud newid cadarnhaol.
