Wrth i Gymru ddathlu 75 mlynedd ers sefydlu'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (GIG), mae’r Aelod o'r Senedd Plaid Cymru dros Ganol De Cymru, Heledd Fychan, wedi talu teyrnged heddiw i staff rheng flaen ymroddedig sydd wedi darparu gwasanaeth a gofal amhrisiadwy ar hyd y blynyddoedd.
Rhybuddiod hefyd bod ein GIG mewn argyfwng. Mae tair blynedd ar ddeg o doriadau Torïaidd, ynghyd â phedair blynedd ar hugain o gamreoli Llafur, wedi gadael ein system gofal iechyd ar ei gliniau, gyda chanlyniadau iechyd gwaeth a gweithlu dan straen aruthrol. Mae angen gweithredu brys i sicrhau y bydd ein GIG yn goroesi am y saith deg pump mlynedd nesaf.
Mae Plaid Cymru wedi ymrwymo i adfer ymddiriedaeth rhwng cleifion a'n system gofal iechyd drwy roi diwedd ar gamreoli cronig. Mae ein cynllun 5 pwynt yn cynnwys recriwtio a chadw mwy o feddygon a nyrsys drwy gynnig cyflog tecach ac amodau gwaith gwell, gan wneud ein GIG yn lle deniadol i weithio. Byddwn yn mynd i'r afael ag amseroedd aros trwy fuddsoddi mewn gofal cymdeithasol, gan sicrhau trosglwyddiad di-dor o iechyd i ofal cymdeithasol. Bydd mesurau iechyd ataliol yn cael eu blaenoriaethu gyda'r nod o fynd i'r afael â materion iechyd cyn iddynt ddod yn ddifrifol, gan leihau'r straen ar ein system gofal iechyd.
Wrth siarad ar y pen-blwydd dywedodd Heledd Fychan AS: "Mae'r GIG wedi cyffwrdd â'n bywydau ni i gyd ac allwn ni ddim dychmygu bywyd heb y gwasanaeth hwn. Dyna pam mae'n rhaid i ni frwydro i sicrhau ei ddyfodol.
"Sefydlwyd y GIG ar yr egwyddor y dylai gofal iechyd fod yn hygyrch i bawb, waeth beth fo'u cefndir. Dros y blynyddoedd, mae ein harwyr gofal iechyd wedi dangos dewrder, tosturi a gwydnwch. Maent wedi wynebu aberthau personol, yn enwedig yn ystod y pandemig, ac eto nid yw eu hymroddiad i'n lles erioed wedi gwanhau.
"Ond mae’r gwasnaeth mewn sefyllfa argyfyngus. Wrth ymweld ag ysbytai, llinellau piced a siarad â gweithwyr y GIG dros y flwyddyn ddiwethaf, maen’t wedi disgrifio system sydd wedi torri. Alwn ni ddim gwadu ymroddiad a gwaith caled ein staff yn y GIG. Maen nhw wedi gweithio'n ddiflino i sicrhau ein bod yn derbyn y gofal rydyn ni'n ei haeddu a rwan mae nhw angen ein help.
"Wrth i ni ddathlu hanes anhygoel y GIG yng Nghymru, mae'n rhaid i ni wneud popeth posibl i warchod a hyrwyddo ein gwasanaeth iechyd i sicrhau y gall cenedlaethau'r dyfodol barhau i elwa o ofal gwych ein Gwasanaeth Iechyd Gwladol."
Dangos 1 ymateb
Mewngofnodi gyda
Mewngofnodi gyda Facebook Mewngofnodi gyda Twitter