Heddiw, mae Heledd Fychan, Aelod o'r Senedd dros Ganol De Cymru, wedi codi pryderon am gyflwr gwasanaethau deintyddol y GIG ar draws y rhanbarth wedi i ganlyniadau arolwg y Gymdeithas Ddeintyddol Brydeinig gael eu rhyddhau. Mae'r arolwg yn dangos bod dros 80% o ddeintyddion y stryd fawr yn cael trafferth cyrraedd targedau afrealistig Llywodraeth Cymru i weld y cleifion presennol, a bod dros 60% yn ei chael hi'n anodd ateb y galw i dderbyn cleifion newydd. Mae Heledd Fychan AS yn rhybuddio y gallai'r sefyllfa hon, ynghyd â'r cynnydd yn y galw am wasanaethau yn dilyn y pandemig, arwain at gwymp mewn gwasanaethau deintyddol ar draws y rhanbarth a dim mynediad i ofal deintyddol y GIG i bawb sydd ei angen.
Rhybuddiodd Heledd Fychan AS ymhellach y bydd newidiadau i gontractau deintyddol yn golygu y bydd nifer o ddeintyddion yn dewis trosglwyddo eu contractau yn ôl neu leihau’r gwasanaethau y maent yn eu darparu, gyda 18% o’r deintyddion yn yr arolwg yn nodi eu bod yn ystyried rhoi eu contract GIG yn ôl a mynd yn breifat, a 39% yn dweud eu bod yn debygol o leihau faint o waith y maent yn ei wneud i'r GIG. Bydd hyn yn cael effaith andwyol ar bobl, yn enwedig y rhai sydd fwyaf agored i niwed, ac sydd eisoes yn cael trafferth cael mynediad at ofal a thriniaeth ddeintyddol.
Wrth siarad ar ôl codi’r pryderon hyn yn uniongyrchol gyda’r Gweinidog Iechyd, dywedodd Heledd Fychan AS:
“Mae canlyniadau’r arolwg a gynhaliwyd gan Gymdeithas Ddeintyddol Prydain yn peri pryder mawr. Mae’n amlwg bod nifer o ddeintyddion yn cael trafferth ymdopi â’r galw am eu gwasanaethau ac mae hyn ond yn mynd i waethygu wrth i fwy o gleifion fod angen triniaeth fwy helaeth yn dilyn y pandemig. Os na wneir dim i fynd i’r afael â’r sefyllfa hon, rydym mewn perygl o golli mynediad at wasanaethau deintyddol y GIG yn gyfan gwbl, a fyddai’n drychinebus i gynifer o bobl yn ein cymunedau.
"Mae'r Gweinidog Iechyd yn gwrthod cydnabod cyflwr gwasanaethau deintyddol yng Nghanol De Cymru a thu hwnt. Dylai pawb allu cael mynediad at y gofal deintyddol sydd ei angen arnynt drwy'r GIG, ac mae'n bryd i'r Gweinidog gymryd camau brys a gweithio gyda Cymdeithas Ddeintyddol Prydain i ddod o hyd i atebion i’r broblem hon.”
Dangos 1 ymateb
Mewngofnodi gyda
Mewngofnodi gyda Facebook Mewngofnodi gyda Twitter