Braf oedd mynychu lansiad Planed Ponty yn Yma ym Mhontypridd. Mae'n wych gweld beth all ddigwydd pan ddaw'r gymuned at ei gilydd i wneud newid cadarnhaol.
Cafodd Repair Cafe Pontypridd ei ddechrau gan Hayley Richards sawl blwyddyn yn ôl gyda chefnogaeth gwirfoddolwyr cymunedol, a lleoliadau cymunedol fel Eglwys Santes Catherine, Clwb y Bont ac Amgueddfa Pontypridd, fel prosiect gan Gyfeillion y Ddaear Pontypridd. Gyda chymorth fy nhîm, a thrwy gyd-weithio rhwng CyDd Pontypridd ac Artis Community llwyddodd Hannah Patricia Hitchins, o Growing Space Pontypridd sicrhau cyllid ar gyfer Planed Ponty. Gallwch ddod â'ch eitemau sydd wedi torri i gael eu trwsio neu fenthyg rhywbeth o'r llyfrgell o bethau. Darganfyddwch fwy am gyfleoedd a gweithdai gwirfoddolwyr drwy'r ddolen isod.
Dangos 1 ymateb
Mewngofnodi gyda
Mewngofnodi gyda Facebook Mewngofnodi gyda Twitter