Mae Heledd Fychan, Aelod o’r Senedd dros Ganol De Cymru, wedi’i phenodi yn llefarydd Plaid Cymru dros Addysg, y Gymraeg a Diwylliant. Yn ogystal â’r rôl hon, mae Ms Fychan hefyd wedi ei phenodi’n Rheolwr Busnes Grŵp y Senedd.
Dywedodd Ms. Fychan, ““Mae’n anrhydedd cael fy mhenodi gan Arweinydd newydd Plaid Cymru, Rhun ap Iorwerth, i’r swydd allweddol hon.
“Mae gennym ni dîm cryf yn y Senedd, sy’n barod i barhau i ddwyn Llywodraeth Cymru i gyfrif a chyflawni dros ein cymunedau drwy’r Cytundeb Cydweithio. Edrychaf ymlaen at gynrychioli ein cymunedau, ac chreu cenedl sy’n gweithio i bawb.”
Ydych chi'n hoffi'r neges hon?
Dangos 1 ymateb
Mewngofnodi gyda
Mewngofnodi gyda Facebook Mewngofnodi gyda Twitter