Heledd Fychan AS: Tystiolaeth i'r adolygiad o adroddiadau adran 19 Llywodraeth leol a Cyfoeth Naturiol Cymru i Lifogydd eithafol

Mae llifogydd yn effeithio ar gymunedau ledled Cymru. Yng Nghanol De Cymru, rydym wedi gweld yr effaith ddinistriol y gall llifogydd ei gael ar gartrefi, busnesau, ac isadeiledd cyhoeddus. Fel aelod o'r Senedd, rwy'n ymroddedig i sefyll fyny dros drigolion a brwydro am atebion.

Mae'n bwysig ein bod yn deall effaith llifogydd ar gymunedau fel y gallwn atal difrod pellach a chefnogi cymunedau sydd wedi'u heffeithio yn y dyfodol.

Llynedd fe wnaeth Plaid Cymru sicrhau adolygiad annibynnol mewn i’r llifogydd fel rhan o'r cytundeb cydweithio gyda Llywodraeth Cymru. Fel rhan o'r gwaith parhaus hwn, rwyf wedi cyflwyno adroddiad yn ymateb i'r ymgynghoriad i rannu profiadau'r cymunedau yr effeithiwyd gan lifogydd ledled Canol De Cymru.

Gallwch ddarllen yr adroddiad trwy glicio ar y llun isod:

 

Bydd hyn yn helpu i sicrhau bod eu lleisiau'n cael eu clywed a bod Llywodraeth Cymru, gobeithio, yn cymryd y camau angenrheidiol i liniaru effaith llifogydd a chefnogi'r rhai sydd wedi eu heffeithio.


Dangos 1 ymateb

Edrychwch yn eich e-bost am ddolen i fywiogi eich cyfrif.
  • Brooke Webb
    published this page in Newyddion 2023-06-21 11:56:01 +0100

Mae hyn yn dechrau gyda chi

Ganddyn nhw mae'r arian, ond gennym ni mae'r bobl. Os yw pawb sy'n ymweld â'r wefan hon yn ymuno â'n symudiad yna does dim na allwn ei gyflawni.

Ymgyrchoedd