
Yn y Siambr yr wythnos hon, gofynnais i Ysgrifennydd y Cabinet sicrhau buddsoddiad mewn atebion trefol sy'n seiliedig ar natur ar gyfer lleihau’r risg llifogu y tu hwnt i'r model amddiffynfeydd traddodiadol, sy'n gynaliadwy ac yn effeithiol fel y dangosir mewn adroddiad diweddar gan WWF “Atebion Trefol sy'n Seiliedig ar Natur ar gyfer Lliniaru Risg Llifogydd”.
Mae Llywodraeth Cymru yn cydnabod bod mwy i'w wneud mewn ardaloedd trefol, gyda ffocws y tu hwnt i'r atebion naturiol yn yr ardaloedd ucheldir.
Byddai hyn o fudd mawr i'r ardaloedd trefol rwy'n eu cynrychioli yn fy rhanbarth, fel Pontypridd a Ffynnon Taf.
Ydych chi'n hoffi'r neges hon?

Dangos 1 ymateb
Mewngofnodi gyda
Mewngofnodi gyda Facebook Mewngofnodi gyda Twitter