
Rwyf wedi cefnogi Ymgyrch Achub Cludiant Ysgol RCT ers tro byd, ac roeddwn yn falch o allu cefnogi eu deiseb wrth iddi gael ei thrafod yn y Senedd ddoe.
Roedd hi’n wych croesawu Tina Collins ac eraill o Ymgyrch Achub Cludiant Ysgol RhCT i'r Senedd heddiw ynghyd a Becci Smart o Penybont cyn y ddadl
ar eu deisebau am Gludiant Ysgol. Mae hwn yn uchafbwynt blynyddoedd o ymgyrchu i wella mynediad ledled Cymru.
Diolch hefyd i bawb a gysylltodd cyn y ddadl, gan rannu eu profiad o gludiant ysgol a'u syniadau am yr hyn sydd angen ei newid gyda mi.
Mae'r dystiolaeth yn dangos nad yw'r trothwyon statudol a'r canllawiau presennol yn gweithio. Mae Llywodraeth Cymru yn adolygu'r canllawiau, ond mae angen gweithredu brys a chydweithrediad trawsbleidiol i sicrhau y gall pob plentyn gael mynediad at addysg yn ddiogel.
Byddaf yn parhau i gefnogi rhieni, dysgwyr ac ymgyrchwyr wrth geisio sicrhau'r newidiadau sydd eu hangen.
Ydych chi'n hoffi'r neges hon?

Dangos 1 ymateb
Mewngofnodi gyda
Mewngofnodi gyda Facebook Mewngofnodi gyda Twitter