
Mwynheais noddi digwyddiad gwych yn y Senedd yr wythnos hon a siarad â'r amrywiaeth o sefydliadau sy'n cynrychioli'r sector chwaraeon gan gynnwys Chwaraeon Cymru, Cymdeithas Bêl-droed Cymru, Chwaraeon Anabledd Cymru, StreetGames, Tenis Cymru, Actif Gogledd Cymru, Partneriaeth Actif Canolbarth y De, Colegau Cymru, Athletau Cymru.
Roedd yn ysbrydoledig clywed am gymaint o raglenni a gweithgareddau sy'n annog ffordd o fyw egnïol i bawb trwy annog cyfranogiad mewn chwaraeon, sy’n dod â chymaint o effaith gadarnhaol ar lesiant corfforol a meddyliol, boed yn yr ysgol, colegau, y gweithle neu ar garreg eich drws. Cefais y cyfle i glywed am gynlluniau buddsoddi a chynnydd wrth ddatblygu cyfleoedd ar gyfer cyfranogiad ledled Cymru, yn ogystal â rhannu gweledigaeth Plaid Cymru ar gyfer chwaraeon.
Cefais yr anrhydedd hefyd o gwrdd â Thomas Matthews a chlywed am ei daith i ddod yn Baralympiad, sut mae'n cefnogi ac yn ysbrydoli athletwyr eraill y dyfodol a dal ei fedal efydd o Gemau Tokyo 2020!
Ydych chi'n hoffi'r neges hon?

Dangos 1 ymateb
Mewngofnodi gyda
Mewngofnodi gyda Facebook Mewngofnodi gyda Twitter