Trafferthion gyda ECO4

Ers y cyhoeddiad bod City Energy Group yn mynd i ddwylo'r gweinyddwyr a'r effaith nid yn unig ar yr unigolion a'r teuluoedd dan sylw ond y bobl a ddioddefodd gan waith anghyflawn neu waith o ansawdd gwael drwy'r Cynllun ECO4, holodd Plaid Cymru Lywodraeth Cymru am gefnogaeth ynghylch hyn yn y Senedd yr wythnos diwethaf.
Fe wnes i rannu'n rhai o'r problemau y mae fy etholwyr wedi'u hwynebu gyda'r gwaith yng nghyfarfod llawn y Senedd, gan gynnwys diffyg gwresogi a'r effaith ar iechyd.
Os ydych chi wedi cael eich effeithio, cysylltwch yma neu drwy [email protected] fel y gallwn geisio eich cefnogi i gael ateb, boed yn waith anghyflawn, gwaith o ansawdd gwael neu os addawyd gwaith i chi nad yw wedi'i wneud.
Cysylltwch hefyd os ydych chi wedi cael eich effeithio gan y colledion swyddi ac os ydych chi'n cael trafferth cael y gefnogaeth gywir o ran y broses weinyddu neu ddod o hyd i gyfleoedd eraill.

Dangos 1 ymateb

Edrychwch yn eich e-bost am ddolen i fywiogi eich cyfrif.
  • Alun Gruffudd
    published this page in Newyddion 2026-01-19 13:46:49 +0000

Eisiau clywed mwy gan eich AS? Cofrestrwch isod

Ymgyrchoedd