Newyddion

Heledd Fychan AS yn cyhoeddi enillwyr cystadleuaeth e-gardiau Nadolig

Gyda'r argyfwng hinsawdd a natur yn fater pwysig i bawb, roeddwn eisiau annog plant ysgolion cynradd ledled rhanbarth Canol De Cymru i ddylunio e-gerdyn Nadolig neu addurn wedi'i wneud o ddeunyddiau wedi'u hailgylchu.

Darllenwch fwy
Ychwanegwch eich ymateb Rhannu

Heledd Fychan AS: Mae gennym ni i gyd, fel Aelodau’r Senedd hon, gyfrifoldeb i wneud popeth o fewn ein gallu i wneud yn siŵr nad oes neb yn mynd heb fwyd.

Yn ystod y pandemig, cynyddodd y defnydd o fanciau bwyd yn sylweddol, gyda’r Trussell Trust yn nodi cynnydd o 11% rhwng Ebrill a Medi 2021 yn cymharu â'r un cyfnod yn 2019. Amcangyfrifir bod y ffigwr hwn yn llawer uwch gan nad yw hyn cynnwys banciau bwyd annibynnol yng Nghymru.

Mae'r duedd gynyddol hon yn peri pryder ac yn dystiolaeth nad yw'r polisïau presennol yn gweithio, gyda bron i chwarter o bobl yng Nghymru yn byw mewn tlodi. 

Darllenwch fwy
Ychwanegwch eich ymateb Rhannu

Heledd Fychan AS yn cwrdd a Actifyddion Hinsawdd Ifanc yn y Senedd.

Mis diwethaf, fe wnaeth Heledd Fychan AS gyfarfod grŵp o ddisgyblion o Ysgolion Uwchradd y Pant a Fitzalan fel rhan o’u hymweliad â’r Senedd gyda Surfers Against Sewage.

Cafodd y disgyblion gyfle i holi Heledd a Julie James AS (Gweinidog dros Newid Hinsawdd) ar faterion pwysig fel yr amgylchedd, llygredd plastig a'u profiadau yn COP26.

Darllenwch fwy
Ychwanegwch eich ymateb Rhannu

Dylai pobl gael dweud eu dweud am ddyfodol Pontypridd

Heddiw mae’r Aelod o’r Senedd dros Ganol De Cymru a’r Cynghorydd dros Dref Pontypridd Heledd Fychan AS wedi lansio ymgynghoriad i ofyn i drigolion, busnesau ac ymwelwyr â Phontypridd rannu eu barn am yr hyn yr hoffent ei weld yn digwydd i'r adeiladau gwag yng nghanol y dref.

Darllenwch fwy
Ychwanegwch eich ymateb Rhannu

COP26 - Diwrnod Dinasoedd, Rhanbarthau a'r Amgylchedd Adeiledig.

 

Ar 11 Tachwedd, mynychais COP26 yn Glasgow lle canolbwyntiwyd ar Ddinasoedd, Rhanbarthau a'r Amgylchedd Adeiledig.

Roedd gan y sesiynau y bûm ynddynt nifer o syniadau gwych ynghylch atal a rheoli llifogydd, gyda chymunedau yn arwain gyda cefnogaeth Llywodraethau yn hytrach na fel arall. Mynychais sesiwn ddiddorol hefyd yngln â sut y gall cerddoriaeth a'r celfyddydau helpu i ysbrydoli pobl i weithredu mewn ymateb i'r argyfwng hinsawdd.

 

Darllenwch fwy
Ychwanegwch eich ymateb Rhannu

Taith gerdded noddedig o Glydach i Bontypridd

Bore 'ma, ymunais â Jodie a Kyle, a hefyd gwirfoddolwyr eraill o Cymorth Galar Cymru ar eu taith gerdded noddedig o Glydach i Bontypridd.

Darllenwch fwy
Ychwanegwch eich ymateb Rhannu

Pasys Covid

Pan ddaeth pasys Covid i rym ym mis Hydref, cysylltodd nifer o etholwyr i rannu eu pryderon ynglŷn â'r ffaith nad yw’r canllawiau yn ddigon clir i'r rhai sydd wedi'u heithrio rhag cael y brechlyn a chymryd profion llif  oherwydd cyflyrau meddygol.

Darllenwch fwy
Ychwanegwch eich ymateb Rhannu

Diwrnod gweithredu byd-eang ar gyfer Cyfiawnder Hinsawdd

Roedd yn anrhydedd ymuno â'r miloedd o actifyddion hinsawdd ar strydoedd Caerdydd i ddathlu'r Diwrnod Gweithredu Byd-eang dros Gyfiawnder Hinsawdd (Tachwedd y 6ed)

Darllenwch fwy
Ychwanegwch eich ymateb Rhannu

Cyfiawnder Pensiwn i Fenywod y 1950au

Heddiw clywais leisiau pwerus menywod WASPI sydd wedi dod at ei gilydd i alw am un peth -  cyfiawnder.

Darllenwch fwy
Ychwanegwch eich ymateb Rhannu

Prosiect Adfywio Ynysybwl

Heddiw (4 Tachwedd 2021), cefais y pleser o ymweld â Phrosiect Adfywio Ynysybwl. 

Roedd yn wych clywed gan y staff a gwirfoddolwyr am yr holl fentrau gwahanol, a'r effaith gadarnhaol y mae'r prosiect wedi ei gael ar bobl yr ardal 

Yn ystod fy ymweliad, cefais y cyfle i fynd ar daith gyda rhai o'r tîm ysbrydoledig sydd yn arwain y prosiect.  Dechreuon yn y swyddfa yn Windsor Place ycyn mynd ar daith ar hyd llwybr Lady Windsor- rhan o daith gerdded Cribin Ddu a ddatblygwyd gan grŵp lleol. 

Darllenwch fwy
Ychwanegwch eich ymateb Rhannu

Eisiau clywed mwy gan eich AS? Cofrestrwch isod

Ymgyrchoedd