Heddiw mae’r Aelod o’r Senedd dros Ganol De Cymru a’r Cynghorydd dros Dref Pontypridd Heledd Fychan AS wedi lansio ymgynghoriad i ofyn i drigolion, busnesau ac ymwelwyr â Phontypridd rannu eu barn am yr hyn yr hoffent ei weld yn digwydd i'r adeiladau gwag yng nghanol y dref.
Mae hyn yn dilyn yr adroddiad diweddar a drafodwyd gan Gabinet Cyngor Rhondda Cynon Taf am ddatblygu yr adeiladau gwag yn y dref yn y dyfodol, lle roedd yn amlwg nad oedd unrhyw ymgynghori cyhoeddus wedi bod i helpu i lywio’r cynlluniau.
Meddai Heledd Fychan AS:
“Dylai pobl sy’n byw, gweithio ac sydd yn ymweld â Phontypridd gael dweud eu dweud am ddyfodol y dref, gan gynnwys yr holl ddatblygiadau posib.
“Ar hyn o bryd, mae'n ymddangos bod pob penderfyniad yn cael ei wneud i'r dref yn hytrach na gyda ac nid yw llais y bobl sy'n byw, gweithio a defnyddio'r dref yn cael ei ystyried yn y prosesau gwneud penderfyniadau.
“Wrth siarad â busnesau a thrigolion lleol, rwyf wedi clywed cymaint o syniadau gwych y gellid ac y dylid eu hymgorffori yn y cynlluniau hyn. Byddwn felly yn annog pawb sydd eisiau dweud eu dweud i gwblhau'r arolwg a lansiais, fel y gellir eu cyflwyno i Gabinet Cyngor RhCT i'w ystyried cyn iddynt wneud unrhyw benderfyniadau terfynol. "
Dolen i'r arolwg yma: https://www.heleddfychan.wales/ponty_town_development
Dangos 1 ymateb
Mewngofnodi gyda
Mewngofnodi gyda Facebook Mewngofnodi gyda Twitter