Eleni eto, daeth Heledd Fychan AS a Bevans Butchers ym Mhontypridd ynghyd i ddosbarthu hamperi bwyd Nadolig i deuluoedd mewn angen dros gyfnod y Nadolig.
Dywedodd Heledd Fychan AS:
“Mae nifer o deuluoedd ledled y rhanbarth wedi dioddef caledi dros y blynyddoedd diwethaf, yn sgil Covid-19 a thoriadau i gymorth ariannol gan Lywodraeth y DU.
"Roedd yn fraint gweithio eto gyda Bevans Butchers unwaith eto eleni i ddosbarthu hamperi bwyd Nadolig i deuluoedd mewn angen, a dod a ysbryd yr ŵyl i'w haelwydydd.
"Diolch hefyd i staff Cyngor Rhondda Cynon Taf a Chapel y tabernacl yn Efail Isaf am eu cymorth i ddarparu'r parseli bwyd wnaeth wneud gwahaniaeth enfawr i deuluoedd dros y Nadolig.”
Dangos 1 ymateb
Mewngofnodi gyda
Mewngofnodi gyda Facebook Mewngofnodi gyda Twitter