Heddiw clywais leisiau pwerus menywod WASPI sydd wedi dod at ei gilydd i alw am un peth - cyfiawnder.
Ynghyd â Sioned Williams AS a Rhys ab Owen AS, clywais straeon y menywod sydd wedi cael eu heffeithio gan Ddeddf Pensiwn y Wladwriaeth a basiwyd gan y Llywodraeth Geidwadol yn 1995.
Pan gytunwyd ar gynlluniau i gynyddu oedran pensiwn gwladol menywod o 60 i 65, ni wnaeth nifer o ferched ddarganfod am y newid nes iddynt gyrraedd yr hyn a gredent oedd eu hoedran pensiwn, 60.
Ni chawsant rybudd priodol ac oherwydd y penderfyniad hwn mae miloedd o fenywod yng Nghymru wedi ddioddef caledi ariannol.
Byddaf yn parhau i ymgyrchu a rhoi llais i'r menywod hyn nes iddynt gael y cyfiawnder maent yn ei haeddu.
Dangos 1 ymateb
Mewngofnodi gyda
Mewngofnodi gyda Facebook Mewngofnodi gyda Twitter