Ar 11 Tachwedd, mynychais COP26 yn Glasgow lle canolbwyntiwyd ar Ddinasoedd, Rhanbarthau a'r Amgylchedd Adeiledig.
Roedd gan y sesiynau y bûm ynddynt nifer o syniadau gwych ynghylch atal a rheoli llifogydd, gyda chymunedau yn arwain gyda cefnogaeth Llywodraethau yn hytrach na fel arall. Mynychais sesiwn ddiddorol hefyd ynglŷn â sut y gall cerddoriaeth a'r celfyddydau helpu i ysbrydoli pobl i weithredu mewn ymateb i'r argyfwng hinsawdd.
Un uchafbwynt oedd cwrdd â Llysgenhadon Hinsawdd Ieuenctid Cymru, a oedd yn bendant yn chwifio'r faner dros Gymru yn Glasgow. Byddaf yn cyfarfod â nhw eto yn fuan i drafod sut y gallwn droi’r trafodaethau yn Glasgow yn gamau gweithredu cadarn.
Heb os, mae COP26 wedi methu â chyrraedd rhai meysydd allweddol, ond mae gan bob un ohonom ran i'w chwarae wrth sicrhau bod arweinwyr y byd yn troi eu geiriau cynnes mewn i weithredoedd pendant.
Dangos 1 ymateb
Mewngofnodi gyda
Mewngofnodi gyda Facebook Mewngofnodi gyda Twitter