COP26 - Diwrnod Dinasoedd, Rhanbarthau a'r Amgylchedd Adeiledig.

 

Ar 11 Tachwedd, mynychais COP26 yn Glasgow lle canolbwyntiwyd ar Ddinasoedd, Rhanbarthau a'r Amgylchedd Adeiledig.

Roedd gan y sesiynau y bûm ynddynt nifer o syniadau gwych ynghylch atal a rheoli llifogydd, gyda chymunedau yn arwain gyda cefnogaeth Llywodraethau yn hytrach na fel arall. Mynychais sesiwn ddiddorol hefyd yngln â sut y gall cerddoriaeth a'r celfyddydau helpu i ysbrydoli pobl i weithredu mewn ymateb i'r argyfwng hinsawdd.

 

Un uchafbwynt oedd cwrdd â Llysgenhadon Hinsawdd Ieuenctid Cymru, a oedd yn bendant yn chwifio'r faner dros Gymru yn Glasgow. Byddaf yn cyfarfod â nhw eto yn fuan i drafod sut y gallwn droi’r trafodaethau yn Glasgow yn gamau gweithredu cadarn.

Heb os, mae COP26 wedi methu â chyrraedd rhai meysydd allweddol, ond mae gan bob un ohonom ran i'w chwarae wrth sicrhau bod arweinwyr y byd yn troi eu geiriau cynnes mewn i weithredoedd pendant.


Dangos 1 ymateb

Edrychwch yn eich e-bost am ddolen i fywiogi eich cyfrif.
  • Brooke Webb
    published this page in Newyddion 2021-12-08 11:34:24 +0000

Eisiau clywed mwy gan eich AS? Cofrestrwch isod

Ymgyrchoedd