Gyda'r argyfwng hinsawdd a natur yn fater pwysig i bawb, roeddwn eisiau annog plant ysgolion cynradd ledled rhanbarth Canol De Cymru i ddylunio e-gerdyn Nadolig neu addurn wedi'i wneud o ddeunyddiau wedi'u hailgylchu.
Rwy’n falch iawn o gyhoeddi mai enillwyr y gystadleuaeth e-gardiau Nadolig eleni yw:
Dan 7: Lois Rhodd - Ysgol Gynradd Gymraeg Pont Sion Norton
7-11: Briallen Davies - Ysgol Gynradd Gymraeg Llantrisant
Dosbarth mwyaf creadigol: Dosbarth A, Ysgol Gynradd Hawthorn
Bydd e-gerdyn yn cynnwys eu dyluniadau buddugol yn cael ei anfon at bobl ledled Cymru a bydd yr enillwyr yn derbyn eu gwobr yr wythnos nesaf. Fe'u gwahoddir hefyd i ymweld â'r Senedd ynghyd â'u dosbarth.
Rwyf eisiau diolch i bawb a gymerodd ran yn fy nghystadleuaeth Nadolig. Derbyniais gymaint o gynigion anhygoel a chreadigol gan blant ysgol ledled y rhanbarth ac roedd yn anodd dewis tri enillydd!
Bydd pawb a gystadlodd ac a ddarparodd fanylion cyswllt yn derbyn tystysgrif am gystadlu.
Dangos 1 ymateb
Mewngofnodi gyda
Mewngofnodi gyda Facebook Mewngofnodi gyda Twitter