Yn ystod y pandemig, cynyddodd y defnydd o fanciau bwyd yn sylweddol, gyda’r Trussell Trust yn nodi cynnydd o 11% rhwng Ebrill a Medi 2021 yn cymharu â'r un cyfnod yn 2019. Amcangyfrifir bod y ffigwr hwn yn llawer uwch gan nad yw hyn cynnwys banciau bwyd annibynnol yng Nghymru.
Mae'r duedd gynyddol hon yn peri pryder ac yn dystiolaeth nad yw'r polisïau presennol yn gweithio, gyda bron i chwarter o bobl yng Nghymru yn byw mewn tlodi.
Heddiw, fe wnaeth Plaid Cymru arwain dadl ar hawl pobl i fwyd. Gofynnom i Lywodraeth Cymru i wneud hyn yn gyfraith i sicrhau nad oes rhaid i neb mynd heb fwyd.
Yn y ddadl, rhannais y ffaith frawychus, bod 200,000 o blant a’u teuluoedd yn llwgu yng Nghymru, ac er hyn amcangyfrifir bod tua 500,000 o dunelli o fwyd yn cael ei wastraffu yma yng Nghymru bob blwyddyn. Yn fyd-eang, amcangyfrifir bod 1.3 biliwn tunnell o fwyd yn cael ei wastraffu neu ei golli bob blwyddyn - traean o'r holl fwyd a gynhyrchir ar gyfer pobl.
Mae’n amlwg bod angen newid radical i fynd a’r afael ar broblem hon a gofynnais i’r llywodraeth annog busnesau i ddangos eu cyfrifoldeb cymdeithasol drwy lofnodi Courtauld 2024, sef ymrwymiad i fynd i’r afael â gwastraff bwyd ac i gefnogi ailddosbarthu.
Mae banciau bwyd a'u gwirfoddolwyr yn gwneud gwaith anhygoel yn eu cymunedau felly mae'n bryd i'r llywodraeth wneud eu rhan a sicrhau nad oes rhaid i unrhyw un fynd heb fwyd eto.
Dangos 1 ymateb
Mewngofnodi gyda
Mewngofnodi gyda Facebook Mewngofnodi gyda Twitter