Mis diwethaf, fe wnaeth Heledd Fychan AS gyfarfod grŵp o ddisgyblion o Ysgolion Uwchradd y Pant a Fitzalan fel rhan o’u hymweliad â’r Senedd gyda Surfers Against Sewage.
Cafodd y disgyblion gyfle i holi Heledd a Julie James AS (Gweinidog dros Newid Hinsawdd) ar faterion pwysig fel yr amgylchedd, llygredd plastig a'u profiadau yn COP26.
Dywedodd Heledd Fychan AS:
“Mae lleisiau pobl ifanc yn ran allweddol o’r frwydr yn erbyn newid hinsawdd felly roedd yn ysbrydoledig i glywed eu syniadau ynglŷn a sut i fynd i’r afael â llygredd plastig yn ein hysgolion. Edrychaf ymlaen at weithio gyda nhw, a cefnogi eu hymgyrch yn y dyfodol. ”
Oeddech chi'n gwybod bod cynhyrchu 1 tunnell o blastig yn cynhyrchu hyd at 2.5 tunnell o garbon deuocsid?
I ddarganfod mwy am Surfers against Sewage a'r gwaith maen nhw'n ei wneud yng Nghymru cliciwch yma.
Dangos 1 ymateb
Mewngofnodi gyda
Mewngofnodi gyda Facebook Mewngofnodi gyda Twitter